Wicipedia:Ar y dydd hwn/Tachwedd
1 Tachwedd: Gŵyl mabsant Cadfan a Sant Dona; Diwrnod y Meirw yn cychwyn ym Mecsico
- 1455 – priodwyd Edmwnd Tudur, Iarll Richmond a'r Arglwyddes Margaret Beaufort, rhieni Harri Tudur, brenin Lloegr
- 1536 – daeth Deddf Uno 1536 i rym
- 1895 – ganwyd y bardd a'r arlunydd David Jones
- 1948 – agorwyd Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan i'r cyhoedd
- 1982 – S4C yn dechrau darlledu
2 Tachwedd: Dydd Gŵyl Aelhaiarn; Diwrnod y Meirw yn parhau ym Mecsico
- 1401 – ymladdwyd Brwydr Twthil rhwng byddin Owain Glyn Dŵr a'r Saeson; dyma'r tro cyntaf i Owain ddefnyddio baner y Ddraig Aur
- 1833 – sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
- 1848 – ganwyd Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf yr Eglwys yng Nghymru, yn Llanymawddwy, Gwynedd
- 1904 – bu farw Isaac Foulkes, perchennog a golygydd cyntaf Y Cymro
- 1925 – torrodd argae Llyn Eigiau, Eryri; collodd 17 eu bywydau ym mhentref Dolgarrog
3 Tachwedd: gwyliau'r seintiau Clydog a Gwenffrewi
- 361 – bu farw Constantius II, ymerawdwr Rhufain
- 1456 – bu farw Edmwnd Tudur, tad Harri VII, brenin Lloegr
- 1851 – ganwyd Llew Tegid, llenor ac eisteddfodwr
- 1904 – ganwyd Caradog Prichard, awdur Un Nos Ola Leuad, ym Methesda, Gwynedd
- 1954 – bu farw yr arlunydd o Ffrancwr Henri Matisse
4 Tachwedd: Dydd Gŵyl Gwenfaen
- 1839 – Terfysg Casnewydd. Taniodd milwyr Lloegr i'r dorf a bu farw 22 ac anafwyd dros hanner cant o'r Cymry lleol.
- 1691 – ganwyd y dyddiadurwr a'r tifeddiannwr William Bulkeley, Llanfechell, Ynys Môn
- 1925 – bu farw'r nofelydd Cymraeg W. D. Owen
- 1965 – bu farw'r ysgolhiag Celtaidd Syr Ifor Williams
- 1980 – bu farw'r paffiwr o Ferthyr Tudful, Johnny Owen, yn 24 oed
5 Tachwedd: Noson Guto Ffowc; Gŵyl mabsant Cybi
- 1605 – ceisiodd Guto Ffowc ladd brenin Lloegr a ffrwydro Palas San Steffan
- 1831 – ganwyd Anna Leonowens, athrawes plant brenin Siam
- 1854 – y Cadfridog Hugh Rowlands yn ennill Croes Victoria am ei weithred yn ystod Rhyfel y Crimea; ef oedd y Cymro cyntaf i'w hennill
- 1905 – ganwyd y newyddiadurwr Percy Cudlipp yng Nghaerdydd
- 1991 – bu farw'r dramodydd Gwenlyn Parry, awdur Y Tŵr a Saer Doliau
6 Tachwedd: Gŵyl mabsant Illtud ac Adwen
- 1282 – Brwydr Moel-y-don, Ynys Môn, rhwng lluoedd Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I, brenin Lloegr
- 1840 – Ganwyd John Williams, meddyg a phrif sylfaenydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yng Ngwynfe, Sir Gaerfyrddin
- 1913 – Bu farw'r peiriannydd trydanol William Henry Preece
- 2019 – Alun Cairns yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
7 Tachwedd: Diwrnod cenedlaethol Gogledd Catalwnia; Dydd Gŵyl Sant Cyngar
- 1581 – bu farw Richard Davies, esgob a chyfieithydd y Testament Newydd i'r Gymraeg gyda William Salesbury
- 1848 – bu farw Thomas Price (Carnhuanawc), hanesydd, hynafiaethydd a llenor
- 1910 – cychwynnodd Terfysg Tonypandy
- 1916 – y Cymro Cymraeg Charles Evans Hughes bron a chipio arlywyddiaeth Unol Daleithiau America
- 1920 – ganwyd yr awdures a'r dramodydd Elaine Morgan yn Nhrehopcyn, ger Pontypridd
8 Tachwedd: Gwyliau mabsant Cybi a Thysilio
- 1308 – bu farw'r diwinydd o'r Alban Duns Scotus
- 1802 – ganwyd y llenor Cymraeg William Rees (Gwilym Hiraethog) a'r gwleidydd Benjamin Hall
- 1847 – ganwyd Bram Stoker, y nofelydd Gwyddelig a greodd Dracula
- 1878 – ganwyd y palaeontolegydd Dorothea Bate yng Nghaerfyrddin
- 1965 – ganwyd y canwr opera Bryn Terfel ym Mhant Glas, Gwynedd
- 1974 – ganwyd yr actor Matthew Rhys, a ymddangosodd yn The Edge of Love a The Americans.
9 Tachwedd: Gŵyl mabsant Cynon a Tysilio.
- 1277 – rhoddodd Llywelyn ap Gruffudd ei sêl ar Gytundeb Aberconwy
- 1953 – bu farw'r bardd Dylan Thomas yn Efrog Newydd
- 1971 – bu farw'r arlunydd Cymreig Ceri Richards
- 1989 – cwymp Mur Berlin
- 1990 – ganwyd y gymnast Francesca Jones; enillodd Fedal Aur dros Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad, 2014.
10 Tachwedd; Dydd Gŵyl Elaeth
- 1549 – bu farw y Pab Pawl III
- 1697 – ganwyd yr arlunydd Seisnig William Hogarth
- 1766 – ganwyd y bardd a phamffledwr radicalaidd John Jones (Jac Glan-y-gors) ym mhlwyf Cerrigydrudion
- 1925 – ganwyd yr actor Richard Burton ym Mhontrhydyfen, Cwm Afan
- 1934 – sefydlwyd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru.
11 Tachwedd: Diwrnod y Cadoediad; Gŵyl Farthin (Cristnogaeth)
- 1294 – cipiodd y Cymry Gastell Dinbych oddi wrth y Saeson, a'i ddal am 7 mis, fel rhan o Wrthryfel Cymreig 1294–95
- 1821 – ganwyd y nofelydd Rwsaidd Fyodor Dostoievski
- 1918 – cadoediad rhwng y Cynghreiriaid a'r Almaen yn dod â'r Rhyfel Byd Cyntaf i ben
- 1920 – ganwyd y gwleidydd Roy Jenkins yn Abersychan
- 1969 – bu farw'r hanesydd a'r awdur R. T. Jenkins
- 1799 – claddwyd corff Abram Wood, 'Brenin y Sipsiwn', yn Eglwys Llangelynnin, Gwynedd; roedd yn gant oed.
- 1865 – bu farw'r nofelydd Seisnig Elizabeth Gaskell
- 1866 – ganwyd y gwleidydd o Tsieina, Sun Yat-sen
- 1875 – ganwyd Rachel Barrett, golygydd The Suffragette, yng Nghaerfyrddin
- 1983 – chwaraeodd y person tywyll cyntaf, sef Mark Brown, gêm o rygbi'r Undeb dros Gymru
- 1907 – bu farw'r bardd Eingl-Gymreig Lewis Morris
13 Tachwedd: Dydd Gŵyl Gredifael
- 354 – ganwyd Sant Awstin o Hippo; awdur y Cyffesiadau
- 1817 – ganwyd y cyfansoddwr Henry Brinley Richards yng Nghaerfyrddin
- 1934 – bu farw E. Vincent Evans, golygydd a newyddiadurwr Cymreig
- 1955 – ganwyd yr actores Americanaidd Whoopi Goldberg
- 1997 – bu farw'r nofelydd Alexander Cordell
- 2020 – bu farw John Meurig Thomas, cemegydd yr enwyd y mwyn meurigite ar ei ôl.
14 Tachwedd: Diwrnod Rhyngwladol Clefyd y Siwgr a dydd gŵyl Sant Dyfrig
- 1687 – bu farw Nell Gwyn, actores a meistres y brenin Siarl II
- 1716 – bu farw'r athronydd Almaenig Gottfried Wilhelm von Leibniz
- 1801 – ganwyd y gweinidog David Rees, "Y Cynhyrfwr", ym mhlwyf Tre-lech, Sir Gaerfyrddin
- 1840 – ganwyd yr arlunydd Ffrengig Claude Monet
- 1889 – ganwyd Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog cyntaf India annibynnol
15 Tachwedd Gwylmabsant Mechell
- 1897 – ganwyd Aneurin Bevan yn Nhredegar, Blaenau Gwent
- 1912 – ganwyd Fosco Maraini, ethnolegydd ac awdur o Eidalwr
- 1932 – ganwyd y gantores Petula Clark yn Epsom, Surrey
- 1969 – datgysylltodd Undeb Gwyddbwyll Cymru oddi wrth Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain.
16 Tachwedd: Gŵyl mabsant Afan; diwrnod yr iaith Islandeg
- 1930 – ganwyd y llenor o Nigeria Chinua Achebe
- 1945 – ffurfiwyd UNESCO
- 1953 – ganwyd y digrifwr Griff Rhys Jones yng Nghaerdydd
- 1995 – bu farw'r hanesydd Gwyn Alf Williams, awdur When Was Wales?.
17 Tachwedd: Diwrnod Rhyngwladol y Myfyriwr; Dydd Gŵyl Afan Buallt
- 1858 – bu farw'r sosialydd Robert Owen
- 1869 – agorwyd Camlas Suez yn swyddogol
- 1924 – ganwyd y llenor Islwyn Ffowc Elis yn Wrecsam
- 1942 – ganwyd y cyfarwyddwr ffilmiau o Americanwr Martin Scorsese
- 1955 – ganwyd y pensaer Amanda Levete ym Mhen-y-Bont ar Ogwr
18 Tachwedd: Diwrnod annibyniaeth Latfia (1918) a Morocco (1956)
- 1922 – bu farw y llenor Ffrengig Marcel Proust
- 1939 – ganwyd y nofelydd o Ganada Margaret Atwood
- 1962 – bu farw y ffisegydd o Ddenmarc Niels Bohr
- 1976 – bu farw y ffotograffydd Americanaidd Man Ray
- 1984 – bu farw'r gwrthwynebydd cydwybodol Arglwydd Maelor mewn tân yn ei gartref yn y Ponciau.
- 1792 – bu farw Wolfe Tone, cenedlaetholwr Gwyddelig
- 1828 – bu farw y cyfansoddwr Awstriaidd Franz Schubert
- 1892 – ganwyd yr undebwr llafur o Gymro Huw T. Edwards
- 1917 – ganwyd Indira Gandhi, Prif Weinidog India
- 1962 – ganwyd Jodie Foster, actores Americanaidd
- 2020 – bu farw Helen Morgan yn 54 oed, chwaraewr hoci Cymreig.
- 1878 – bu farw'r bardd William Thomas (Islwyn)
- 1881 – bu farw'r addysgwr Syr Hugh Owen
- 1908 – daeth banc annibynol olaf Cymru i ben pan gymerwyd Banc Gogledd a De Cymru drosodd gan Fanc y Midland
- 1910 – bu farw'r llenor Rwsiaidd Lev Tolstoy
- 1951 – sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri, un o dri pharc yng Nghymru
21 Tachwedd: Gŵyl mabsant Digain
- 1694 – ganwyd yr athronydd ac awdur Ffrengig Voltaire
- 1695 – bu farw y cyfansoddwr Seisnig Henry Purcell
- 1723 – ganwyd Henry Rowlands, hynafiaethydd ac awdur Mona Antiqua Restaurata, yn Llanedwen, Ynys Môn
- 1945 – ganwyd yr actores Americanaidd Goldie Hawn
- 1956 – nifer o Gymry yn ymdeithio drwy strydoedd Lerpwl er mwyn atal boddi Capel Celyn.
22 Tachwedd:
* Gŵyl mabsant Peulin a Deinolen
* Diwrnod Annibyniaeth Libanus (oddi wrth Ffrainc Rydd; 1943)
- 1147 – sefydlwyd Abaty Margam
- 1819 – ganwyd y nofelydd Seisnig George Eliot (Mary Anne Evans)
- 1900 – dechreuodd Streic Fawr y Penrhyn
- 1963 – bu farw John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau
23 Tachwedd: Gŵyl mabsant Deiniolen
- 1266 – cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf
- 1798 – bu farw David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg)
- 1965 – bu farw y gangster o dras Gymreig Llewelyn Morris Humphreys (Murray the Hump)
- 1966 – bu farw y ffotograffydd Americanaidd Alvin Langdon Coburn yn Llandrillo-yn-Rhos
- 1541 – bu farw Marged Tudur, merch Harri VII, brenin Lloegr
- 1648 – ganwyd Humphrey Humphreys, hynafiaethydd ac Esgob Bangor
- 1859 – cyhoeddwyd On the Origin of Species gan Charles Darwin
- 1904 – bu farw Lewis Jones, un o brif sylfaenwyr Y Wladfa ym Mhatagonia
- 1951 – ganwyd y chwaraewr rygbi Graham Price
25 Tachwedd: Diwrnod annibyniaeth Swrinam (1975)
- 1120 – suddodd y Blanche-Nef ("Y Llong Wen"), ger Barfleur, Normandi
- 1609 – ganwyd y dywysoges Ffrengig Henrietta Maria (Henriette Marie), a briododd Siarl I, brenin Lloegr
- 1851 – ganwyd y golygydd, newyddiadurwr ac eisteddfotwr E. Vincent Evans ym mhlwyf Llangelynnin
- 1927 – bu farw Fanny Mary Katherine Bulkeley-Owen, hanesydd a hynafieithydd Cymreig
- 1974 – bu farw U Thant, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig
26 Tachwedd: Diwrnod annibyniaeth Mongolia (1921)
- 1805 – agorwyd Traphont Pontcysyllte, sy'n dwyn Camlas Llangollen dros ddyffryn Afon Dyfrdwy
- 1865 – cyhoeddwyd Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud gan Lewis Carroll
- 1980 – bu farw yr actores Rachel Roberts
- 2004 – agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd
27 Tachwedd Dydd Gŵyl y seintiau Cyngar ac Allgo
- 1847 – ganwyd Charles Morley Aelod Seneddol rhyddfrydol dros Sir Frycheiniog
- 1852 – bu farw Ada Lovelace codiwr yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant
- 1871 – ganwyd Robert Evans (Cybi), llenor a hanesydd († 1956)
- 1942 – ganwyd Jimi Hendrix, cerddor († 1970)
- 2011 – bu farw Gary Speed, rheolwr a phêl-droediwr Cymreig.
- 1170 – bu farw'r tywysog Owain Gwynedd a rhannwyd Teyrnas Gwynedd rhwng ei feibion Dafydd a Rhodri.
- 1532 – ganwyd Owen Lewis, esgob Cassiano all'Jonio yn yr Eidal, ger Llangadwaladr, Ynys Môn.
- 1893 – cafodd gwragedd bleidleisio mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf, a hynny yn Seland Newydd.
- 2004 – bu farw'r cerflunydd a'r awdur Jonah Jones a wnaeth benddelwau o Bertrand Russell, John Cowper Powys, Dylan Thomas a David Lloyd George yn Abaty Westminster.
29 Tachwedd Dydd gŵyl Sant Sadwrn
- 1840 – ganwyd Rhoda Broughton, nofelydd o Ddinbych
- 1871 – ganwyd Ruth Herbert Lewis, arloeswraig dechnolegol a chasglwr caneuon gwerin
- 1898 – ganwyd C. S. Lewis, awdur (m. 1963), wyr y Cymro Richard Lewis
- 1973 – ganwyd Ryan Giggs, pêl-droediwr, aelod o dîm cenedlaethol Cymru a Manchester United
- 2001 – bu farw George Harrison, 58, prif gitarydd The Beatles
- 2013 – damwain hofrennydd Glasgow 2013 pan gollodd 10 o bobol eu bywydau.
30 Tachwedd: Gŵyl Sant Andreas, nawddsant yr Alban, Gwlad Groeg, Romania, Rwsia a Sisili
- 1667 – ganwyd y Gwyddel Jonathan Swift, awdur Gulliver's Travels (1726)
- 1828 – bu farw William Williams (Wil Penmorfa), 69, telynor
- 1926 – bu farw Syr Ellis Jones Ellis-Griffith, y Barwnig 1af, bargyfreithiwr ac AS Rhyddfrydol
- 1964 – bu farw John Lias Cecil-Williams, prif hyrwyddwr y Bywgraffiadur
- 1983 – bu farw Richard Llewellyn, awdur How Green Was My Valley (1939).
|