Neidio i'r cynnwys

Patagonia

Oddi ar Wicipedia
Patagonia
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Siryr Ariannin, Tsile Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Baner Tsile Tsile
Cyfesurynnau41.81015°S 68.90627°W Edit this on Wikidata
Map
Patagonia (mewn oren)
Llyn Espejo, ym Mhatagonia

Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Tsile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Tsile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Tsile).

Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]

Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:

  1. Neuquén: 94,078 km², rhwng yr afonydd Nequen a Limay, yn ymestyn tua'r de hyd at lan gogleddol Llyn Nahuel-Huapi, a thua'r gogledd hyd at y Rio Colorado.
  2. Río Negro: 203,013 km², rhwng Môr yr Iwerydd a'r Andes, rhwng Nequen a lledred 42° De.
  3. Chubut: 224,686 km², rhwng 42° a 46° De.
  4. Santa Cruz: 243,943 km², rhwng Chubut a ffîn Tsili.

Daw'r enw o'r gair patagón[2] sef cewir mewn mytholeg a chredwyd eu bod ddwywaith maint dyn - 12 i 15 troedfedd (3.7 i 4.6 m).

Gwladfa Gymreig

[golygu | golygu cod]

Yng nghanol y 19g, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno.

Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Patagonia: Natural History, Prehistory and Ethnography at the Uttermost End of the Earth, C. McEwan, L.A. ac A. Prieto (eds), Princeton University Press gyda Gwasg yr Amgueddfa Brydeinig, 1997. ISBN 0-691-05849-0
  2. Antonio Pigafetta, 1524: "Il capitano generale nominò questi popoli Patagoni."