Neidio i'r cynnwys

Robert Evans (Cybi)

Oddi ar Wicipedia
Robert Evans
Cybi yn Awst 1955; Geoff Charles
FfugenwCybi Edit this on Wikidata
Ganwyd27 Tachwedd 1871 Edit this on Wikidata
Llangybi Edit this on Wikidata
Bu farw16 Hydref 1956 Edit this on Wikidata
Llangybi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd, llyfrwerthwr, postmyn, hanesydd lleol Edit this on Wikidata
Erthygl am y bardd Robert Evans yw hon. Defnyddiwyd y ffugenw 'Cybi' hefyd gan Eben Fardd (1802-1863). Am y sant, gwler Cybi.

Llenor a bardd Cymraeg a hanesydd lleol oedd Cybi, sef enw barddol Robert Evans (27 Tachwedd 1871 - 16 Hydref 1956). Roedd yn frodor o blwyf Llangybi, Gwynedd, lle treuliodd y cyfan o'i oes.[1] Erbyn 1945 roedd wedi cyhoeddi 28 llyfr gyda gwerthiant o dros 100,000 o gopïau.[2]

Bywyd a gwaith

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei fagu ar fferm ei rieni yn Llangybi. Dechreuodd weithio fel gwas fferm cyn cael gwaith fel postmon. Gwerthai lyfrau yn rhan amser ym marchnad Pwllheli.[1]

Ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg. Ei hoff faes oedd beirdd ardal Eifionydd a'i ddau waith pwysicaf efallai yw casgliad o waith anghyhoeddedig Robert ap Gwilym Ddu (1911) a'r gyfrol ar feirdd gwerin Eifionydd (1914). Roedd yn fardd pur adnabyddus yn ei ddydd; enillodd sawl gwobr eisteddfodol a chyhoeddodd gasgliad o'i gerddi yn 1912. Cyhoeddodd sawl llyfr i blant hefyd.[1]

Fel hanesydd lleol ymddiddorai yn hanes Eifionydd a Sir Gaernarfon a chyhoeddodd sawl cyfrol ar y pwnc yn cynnwys Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923) a llyfr am fywyd a gwaith ei gyfaill 'Myrddin Fardd'.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Ardal y Cewri (1907). Hanes.
  • Odlau Eifion (1908). Cerddi.
  • Awdl 'Bwlch Aberglaslyn' (1910)
  • Llawlyfr o farddoniaeth i blant (1911).
  • Gwaith Barddonol Cybi (1912). Cerddi.
  • Lloffion yr Ardd, barddoniaeth anghyhoeddedig Robert ap Gwilym Ddu (1911)
  • Beirdd gwerin Eifionydd a'u gwaith (1914)
  • Cymeriadau Hynod Sir Gaernarfon (1923). Hanes.
  • Cae'r Go William Hugh Williams, Yr Arloeswr Sol-ffa (1935). Bywgraffiad.
  • John Jones (Myrddin Fardd) (1945). Astudiaeth.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-Lein, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Cybi, John Jones (Myrddin Fardd) (1945). Broliant ar dudalen deitl y llyfr.