UNESCO
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth arbenigol y Cenhedloedd Unedigl, sefydliad rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 16 Tachwedd 1945 |
Prif bwnc | lifestance organisation |
Lleoliad yr archif | University of Maryland Libraries |
Pennaeth y sefydliad | Director-General of UNESCO |
Rhagflaenydd | International Committee on Intellectual Cooperation |
Aelod o'r canlynol | Global Citizen Science Partnership, Global Academic Integrity Network |
Isgwmni/au | UNESCO Chair on Cyberspace and Culture, Scientific Committee on Problems of the Environment, UNESCO Institute for Statistics, Iranian National Commission for UNESCO, Hylean Amazon Institute |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Paris |
Enw brodorol | United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization |
Gwefan | https://en.unesco.org, https://fr.unesco.org, https://es.unesco.org, https://ru.unesco.org, https://ar.unesco.org, https://zh.unesco.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yw Mudiad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (Saesneg: United Nations Educational, Scientific and Cultural Organization, Ffrangeg: L'Organisation des Nations unies pour l’éducation, la science et la culture) neu UNESCO. Sefydlwyd ym 1946 er mwyn gwella cydweithrediad rhyngwladol. Mae'r pencadlys ym Mharis, Ffrainc, ac mae 195 o wledydd yn aelod o UNESCO.
Un o amcanion UNESCO yw cynnal rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Mae'r safleoedd hyn yn bwysig yn hanesyddol; yn naturiol y cred y gymuned byd-eang bod eu amddiffyn yn bwysig.
Y wladwriaeth ddiweddaraf i ymuno â hi yw Palesteina yn Nhachwedd 2011.[1]
Gweithgareddau
[golygu | golygu cod]Mae UNESCO yn rhoi ei gynlluniau ar waith trwy rhaglen sy'n cynnwys y meysydd canlynol:
- Addysg
- Gwyddorau naturiol
- Gwyddorau cymdeithasol a dynol
- Diwylliant
- Cyfathrebu a gwybodaeth
- Mae UNESCO hefyd yn rhyddhau 'datganiadau' cyhoeddus er mwyn addysgu'r cyhoedd:
- Datganiad Seville ar Drais: Datganiad a fabwysiadwyd gan UNESCO ym 1989 er mwyn gwrthbrofi'r syniad bod gan bobl dueddiad biolegol cynhenid i ryfela.
- Dynodi prosiectau a llefydd o arwyddocâd diwylliannol a gwyddonol, megis:
- Rhwydwaith Rhyngwladol Geoparciau
- Gwarchodfeydd Biosffer, trwy Raglen Dyn a'r Biosffer (MAB), ers 1971
- Dinas Lenyddiaeth; yn 2007, Caeredin oedd y ddinas gyntaf i dderbyn y teitl[2] Yn 2008, daeth Dinas Iowa City yn ddinas lenyddiaeth.
- Ieithoedd dan fygythiad a phrosiectau amrywiant ieithyddol
- Campweithiau Treftadaeth Lafar ac Anghyffwrdd Dynoliaeth
- Cofrestr ryngwladol Cof y Byd, ers 1997
- Rheoli adnoddau dŵr, trwy raglen IHP, ers 1965
- Safleoedd Treftadaeth y Byd
- Annog llif syniadau trwy ddelweddau a geiriau
- Hybu digwyddiadau, megis:
- Degawd Rhyngwladol er mwyn Annog Diwylliant Heddwch a Di-dreisedd ar gyfer Plant y Byd: 2001–2010
- Diwrnod Rhyddid Gwasg y Byd, Mai'r 3ydd pob blwyddyn, er mwyn hybu rhyddid mynegiant a rhyddid y wasg fel hawl dynol ac elfennau creiddiol unrhyw gymdeithas iach, ddemocrataidd, rydd.
- Criança Esperança ym Mrasil, trwy bartneriaeth gyda Rede Globo, er mwyn codi pres tuag at brosiectau cymunedol sy'n hybu cyfannu cymdeithasol ac atal trais.
- Diwrnod Llythrennedd y Byd
- Blwyddyn Ryngwladol dros Ddiwylliant Heddwch
- Sefydlu ac ariannu prosiectau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "UNESCO » Media Services » General Conference admits Palestine as UNESCO Member State". Portal.unesco.org. Cyrchwyd 31 Hydref 2011.
- ↑ Varga, Susan (2006). Edinburgh Old Town (Images of Scotland). The History Press Ltd. ISBN 0-7524-4083-7.