Gary Speed
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Gary Andrew Speed | |
Dyddiad geni | 8 Medi 1969 | |
Man geni | Mancot, Sir y Fflint, Cymru | |
Dyddiad marw | 27 Tachwedd 2011 | (42 oed)|
Lle marw | Huntington, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, Lloegr | |
Taldra | 1m 80cm | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1988-1996 1996-1998 1998-2004 2004-2008 2008-2010 |
Leeds United Everton Newcastle United Bolton Wanderers Sheffield United Cyfanswm |
248 (39) 58 (15) 213 (29) 121 (14) 37 (6) 677 (103) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1990-2004 | Cymru | 85 (7) |
Clybiau a reolwyd | ||
2010 2010-2011 |
Sheffield United Cymru | |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Rheolwr a phêl-droediwr Cymreig yn chwarae yng nghanol y cae oedd Gary Andrew Speed (8 Medi 1969 – 27 Tachwedd 2011). Bu'n gapten tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru hyd nes iddo ymddeol o'r gêm ryngwladol yn 2004.[1]
Ganed ef ym mhentref Mancot, Sir y Fflint, ac addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Penarlâg. Dechreuodd ei yrfa fel pêl-droediwr gyda Leeds United, yna symudodd i Everton ym 1996 am £5.5 miliwn. Daeth yn gapten Everton, ond symudodd i Newcastle United ym 1998. Symudodd eto i Bolton Wanderers a Sheffield United yn 2008. Penodwyd ef yn rheolwr Sheffield United ym mis Awst 2010 hyd Rhagfyr 2010. Ef oedd Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol Cymru o Ragfyr 2010 tan ei farwolaeth.
Bu farw Speed yn ei gartref ym mhentref Huntington, Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr. Ar ddiwrnod ei farwolaeth, mynegodd cyfeillion a chydchwaraewyr iddo eu cydymdeimlad, ac yn eu plith: Robbie Savage, Ryan Giggs, Simon Grayson, Alan Shearer a John Hartson. Cynhaliwyd munud o dawelwch yn y gêm bêl-droed rhwng C.P.D. Abertawe ac Aston Villa F.C. ac fel arwydd o barch tuag ato, dechreuodd y dorf gymeradwyo.
Rhagflaenydd: Kevin Blackwell |
Rheolwr Sheffield United F.C. Awst 2010 – Rhagfyr 2010 |
Olynydd: Micky Adams |
Rhagflaenydd: John Toshack |
Prif Hyfforddwr Cymru Rhagfyr 2010 – Tachwedd 2011 |
Olynydd: Chris Coleman |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Szczepanik, Nick (27 Tachwedd 2011). "Gary Speed obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Rhagfyr 2011.