Wicipedia:Ar y dydd hwn/30 Mehefin
Gwedd
30 Mehefin: Diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (1960); Dydd Gŵyl Santes Eurgain
- 1646 – dienyddiwyd Philip Powell, mynach a merthyr Catholig, yn Tyburn ger Llundain
- 1709 – bu farw Edward Lhuyd, botanegydd, daearegwr, hynafiaethydd ac ieithegwr
- 1934 – bu farw Hugh Evans, cyhoeddwr, awdur a sefydlydd Gwasg y Brython
- 1934 – yn yr Almaen Natsïaidd, cychwynnodd Noson y Cyllyll Hirion, sef cyfres o ddienyddiadau i gael gwared ar elynion gwleidyddol Adolf Hitler
- 1937 – yng ngorsaf reilffordd Abertawe croesawodd y "Mudiad Cymorth i Sbaen" blant y ffoaduriaid cyntaf o Wlad y Basg i gyrraedd yng Nghymru.
|