Wyllie
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6386°N 3.1903°W |
Cod OS | ST177940 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhianon Passmore (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Pentref yng nghymuned Ynys-ddu, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Wyllie.[1][2] Lleolir i'r de o'r Coed Duon yn ardal hanesyddol Sir Fynwy.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y rhan fwyaf o dai'r pentref rhwng 1926 ac 1930 gan y Tredegar Iron & Coal Company. Cymerodd y pentref ei enw oddi wrth cyfarwyddwr y cwmni, sef Alexander Keith Wyllie.
Yn y pentref, roedd capel mawr, swyddfa bost, a hen sefydliad glowyr a gafodd ei droi'n dafarn yn ystod yr 1990au. Caeodd y swyddfa bost yn ddiweddar ac mae bloc newydd o fflatiau, Marion Jones Court, wedi cymryd lle'r hen gapel.
Mae'r pentref wedi tyfu yn ddiweddar, gyda tai newydd yn cae eu hadeiladu ar safle hen dip gwastraff y Wyllie Colliery ar ben deheuol y pentref.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu