Machen
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bedwas |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5988°N 3.1347°W |
Cod OS | ST215895 |
Cod post | CF83 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Evans (Llafur) |
Pentref eitha mawr yng nghymuned Bedwas, Tretomos a Machen, bwrdeistref sirol Caerffili, Cymru, yw Machen.[1][2] Saif tua 3 milltir i'r dwyrain o dref Caerffili ar ffordd yr A468. Mae Bedwas a Threthomas gerllaw, sydd ynghyd â Machen yn llunio ward cyngor. Ceir Castell Machen, un o gestyll y tywysogion Cymreig, ger y pentref.
Saif y pentref wrth droed Mynydd Machen. Mae'n bosibl cerdded i fyny ac ar hyd y mynydd, lle mae nifer o feini a enwir mewn chwedlau lleol. Creodd Dennis Spargo, trigolyn o Fachen, ffilm o'r enw Machen: Then & Now, sef hanes y pentref yn 2005, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Chris Evans (Llafur).[4]
Hanes diwydiannol
[golygu | golygu cod]Mae gan pentref Machen wreiddiau yn y diwydiant glo a haearn yn deillio o'r 17g. Er nid oes llawer o ôl y diwydiannau i'w gweld erbyn hyn, roedd y pentref yn leoliad i Efail Machen a sawl pwll glo. Mae yna lwybr hanesyddol leol sy'n ymweld a rhai o'r mannau yma. Yn gynnar yn ei hanes, cychwynodd Efail Machen ddefnyddio y dull Osmond o gynhyrchu haearn gyr.
Roedd un o orsafoedd rheilffordd Brycheiniog a Merthyr ym Machen, gyda changen i Gaerffili ar reilffordd Pontypridd, Caerffili a Chasnewydd, a gaewyd i deithwyr ym 1956. Heddiw mae yna gangen weddilliol o RB&M yn agored i wasanaethu chwarel Hanson Aggregates ym Machen.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae gan Machen dîm rygbi lleol. Maent yn chwarae yn Adran Pedwar y Dwyrain URC ac mae'r tîm yn gwisgo crysau glas gydag ochrau du, trowsus byr du a hosannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Faes Lles Machen.
Addysg
[golygu | golygu cod]Mae yna ysgol cynradd ym Machen or enw Ysgol Gynradd Machen. Mae'r ysgol yn darparu ei addysg trwy gyfrwng y Saesneg. Mae yna hefyd ysgol Gristnogol annibynnol ym Machen o'r enw 'Wycliff Independent Christian School', sydd yn darparu addysg trwy gyfrwng y Saesneg a thrwy weledigaeth Gristnogol unigryw.
Pobl Nodedig
[golygu | golygu cod]- Alfred Edward Morgans (17 Chwefror 1850 – 10 August 1933), Prif Weinidog Gorllewin Awstralia am ddim ond 32 o ddyddiau in 1901. Cafodd ei eni ym Machen.
- Daw'r gwleidydd Ron Davies o Fachen. Anrhydeddwyd ef, yn aelod o'r Orsedd gyda'r enw barddol "Ron o Fachen". Nodir Ron hefyd fel "pensaer datganoli Cymreig", tra'n Ysgrifennydd Gwladol Dros Cymru yng nghabined Plaid Lafur Tony Blair.
- Ian Thomas - cyn gricedwr i Glwb Criced Morgannwg. Fe chwaraeodd dros Forgannwg rhwng 1998 a 2005 gan ennill dwy dlws y Gynghrair Undydd gyda'r sir. Cofir amdano hefyd am iddo sgorio'r can rhediad cyntaf i'w ddarlledu ar deledu yn 2004 (116 heb ei wared yn erbyn Gwlad yr Haf).
- Arthur Machen (Arthur Jones) (1863-1947), ffigwr cwlt o'r 1920au a gyhoeddodd nifer o storiau iasoer am y byd goruwch naturiol gan gynnwys The Bowmen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 3 Tachwedd 2021
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu