Nelson, Caerffili
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,647, 4,472 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Caerffili |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,098.63 ha |
Yn ffinio gyda | Treharris |
Cyfesurynnau | 51.6513°N 3.2806°W |
Cod SYG | W04000739 |
Cod OS | ST115995 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hefin David (Llafur) |
AS/au y DU | Wayne David (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Nelson[1][2] neu (yn wreiddiol) Ffos y Gerddinen. Saif bum milltir i'r gogledd o dref Pontypridd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol San Steffan yw Wayne David (Llafur).[3][4]
Ceir prif swyddfa Dŵr Cymru yn Ffos y Gerddinen, ac mae cwrt pêl-law awyr agored yn y pentref, efallai yr unig un o'i fath yng Nghymru.
Tyfodd y pentref ar ddechrau y 19g oherwydd Pwll Glo Llancaiach a Phwll Glo Penallta gerllaw. Lleolir maenor Tuduraidd Llancaiach Fawr ger y pentref.
Roedd Eisteddfod yr Urdd wedi cael ei gynnal ar bwys Llancaiach Fawr yn 2015. Mae'r llwybr Taith Taf, a llwybr 47 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd trwy'r pentref.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Tarddodd enw'r pentref, Ffos y Gerddinen, o goed gerddinen sy'n tyfu yn yr ardal. Rnwyd tafarn y pentref, The Rowan Tree ("Y Goeden Gerddinen") o'r un goeden. Mae'r enw Saesneg ar bentref Aberpennar, sef "Mountain Ash", yn dilyn yr un patrwm. Cafodd y pentref yr enw "Nelson" o dafarn yno o'r enw "Lord Nelson Inn"; enwyd y dafarn honno ar ôl yr Arglwydd Nelson a ymwelodd â'r lle yn 1803 - dwy flynedd cyn Brwydr Trafalgar.
Sefydliadau Cymunedol
[golygu | golygu cod]Yn y pentref mae yna tair eglwys Gristnogol: Yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan y Bedyddiwr (sydd yn Esgobaeth Llandaf a Phlwyf Taf Rhymni), Eglwys y Bedyddwyr, Calfaria, o 1878 ac Eglwys Efengylaidd Bethel a adeiladwyd yn 1974 (yn wreiddiol roedd yn Eglwydd Fethodistiaeth). Roedd yma hefyd gapel yr Annibynwyr, sef Penuel o 1857, a Chapel Methodistiaeth, Salem, o 1859 sydd wedi cau erbyn hyn.
Cafwyd y dathliad Hindŵaidd Durga Puja cyntaf yng Nghymru yn y pentref yn 1972[5].
Sefydlwyd clwb Rygbi'r undeb, y "Nelson Unicorns", yn 1934, ac mae'n chwarae ar y cae rygbi yng nghanol y dref. Mae yna hefyd dîm pêl-droed, sef y "Nelson Cavaliers AFC", a sefydlwyd yn 1972, gan chwarae ar y cae pêl-droed yn y parc.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Syr Tasker Watkins (1918–2007), barnwr
- Simon Weston (g. 1961), milwr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Hindu Durga Puja celebrated in Wales in 1972". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-09.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Aber-carn · Bargod · Bedwas · Caerffili · Coed-duon · Crymlyn · Rhisga · Rhymni · Ystrad Mynach
Pentrefi
Aberbargoed · Abertridwr · Abertyswg · Argoed · Bedwellte · Brithdir · Cefn Hengoed · Cwm-carn · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-meistr · Rhydri · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Ty'n-y-coedcae · Wyllie · Ynys-ddu