Neidio i'r cynnwys

Aberbargoed

Oddi ar Wicipedia
Aberbargoed
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6968°N 3.224°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhianon Passmore (Llafur)
AS/au y DUNick Smith (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Bargod, bwrdeisdref sirol Caerffili, Cymru, yw Aberbargoed[1] neu Aberbargod.[2] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir ar y briffordd A4049 tua milltir i'r gogledd o Bargod, rhwng Tredegar ac Ystrad Mynach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhianon Passmore (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nick Smith (Llafur).[4]

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r enw'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yma. "Aber Bargoed" oedd ffurf 1578. Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn: fe'i canfyddir yn gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf cynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5]

Pobl o Aberbargoed

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 21 Chwefror 2022
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021. Mae'r rhestr yn cydnabod y ddau ffurf "Aberbargoed" ac "Aberbargod".
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007)
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato