Cwmni cerbydau o Japan yw Toyota Motor Corporation (トヨタ自動車株式会社,Toyota Jidōsha KK) gyda'i bencadlys yn Toyota, Aichi, Japan. Yn 2012 Toyota oedd y cwmni mwyaf drwy'r byd yn y sector cynhyrchu, gyda Volkswagen AG a General Motors yn dynn wrth ei sodlau.[1] Ym Mawrth 2014, roedd 338,875 o weithwyr yn fydeang[2] ac erbyn Chwefror 2016 Toyota oedd 13eg cwmni mwyaf yn y byd, ym mhov sector.
Yng Ngorffennaf 2012 cynhyrchwyd y 200-miliynfed cerbyd.[3] Toyota, hefyd, oedd y cwmni cynhyrchu ceir cyntaf i gynhyrchu mwy na 10 miliwn o gerbydau'r flwyddyn; gwnaeth hynny am y tro cyntaf yn 2012.[1] ac yna yn 2013.[4][5][6]
Mae Toyota'n gwerthu mwy o geir heibrid nag unrhyw gwmni arall. Roedd cyfanswm gwerthiant ceir Toyota a Lexus gyda'i gilydd yn Ionawr 2017 yn 10 miliwn, carreg filltir bwysig ym myd cerbydau trydan. Ei brif fodel, o ran cerbydau heibrid yw'r Prius, gyda dros 6 miliwn o unedau wedi'u gwerthu' fydeang, hyd at Ionawr 2017.
Ffurfiwyd Toyota yn 1937 gan Kiichiro Toyoda fel fforch o un o gwmniau ei dad, sef 'Diwydiannau Toyota' a oedd eisoes wedi cynhyrchu'r Toyota AA.
↑時価総額上位:株式ランキング (yn Japanese). Japan: Yahoo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-01. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2014. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
↑売上高:株式ランキング (yn Japanese). Japan: Yahoo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-01. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2014. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)