TikTok
Enghraifft o'r canlynol | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwasanaeth cynnal fideos, cymuned arlein, very large online platform, busnes |
---|---|
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dyddiad cyhoeddi | Medi 2016 |
Dechrau/Sefydlu | Medi 2016 |
Yn cynnwys | TikTok video, TikToker |
Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
Gweithredwr | Beijing Microbroadcast Vision Technology |
Rhagflaenydd | Musical.ly |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gwefan | https://tiktok.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ap cyfryngau cymdeithasol ar gyfer creu a gwylio fideos byr a darlledu byw yw TikTok.
Manylion
[golygu | golygu cod]Ap cyfryngau cymdeithasol yw TikTok sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer fideos byr. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel Douyin yn Tsieina. Mae TikTok yn caniatáu i ddefnyddwyr greu fideos byr 15 eiliad o hyd, ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o ffurfiau a thechnegau, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, comedi a meim (neu 'lip-sync').[1][2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd TikTok ei lawnsio ym Medi 2016 gan ByteDance, cwmni a aeth yn ei flaen yn Nhachwedd 2017 i brynu'r llwyfan musical.ly a'i gyfuno â TikTok yn Awst 2018.[3][4]
Mae TikTok yn un o'r prif lwyfannau yn Asia ar gyfer creu a rhannu fideos byrion, ac mae wedi ymledu i rannau eraill o'r byd. Mae'n gymuned enfawr sy'n ymestyn ar draws nifer o wledydd ac yn un o'r apiau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.[5][6] Yn 2018, roedd gan yr ap dros 500 miliwn o ddefnyddwyr mewn 150 o wledydd o amgylch y byd.[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ltd, Guiding Media Pvt (2018-10-02). "Top 10 TikTok (Musical.ly) App Tips and Tricks". Guiding Tech (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-11-20.
- ↑ "TikTok - Apps on Google Play". play.google.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-11-20.
- ↑ "Is Douyin the Right Social Video Platform for Luxury Brands? | Jing Daily". Jing Daily (yn Saesneg). 2018-03-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-15. Cyrchwyd 2018-10-14.
- ↑ "How Douyin became the most popular app in the world · TechNode". TechNode (yn Saesneg). 2018-05-10. Cyrchwyd 2018-10-14.
- ↑ "Tik Tok, a Global Music Video Platform and Social Network, Launches in Indonesia".
- ↑ "How Douyin became China's top short-video App in 500 days – WalktheChat". WalktheChat. 25 Chwefror 2018. Cyrchwyd 15 Mawrth 2018.
- ↑ "TikTok surges past 6M downloads in the US as celebrities join the app". The Verge. Cyrchwyd 2018-11-15.