Neidio i'r cynnwys

Wadi Rum

Oddi ar Wicipedia
Wadi Rum
Petroglyphs at Wadi Rum
Wadi Rum

Mae Wadi Rum (Arabeg: وادي رم, DMG Wādī Ramm; Wadi Ramm hefyd. Cyfieithir yr enw unai fel "Dyffryn Tywod" (math o dywod ysgafn, ehedig)[1] neu fel "Dyffryn Rhufain" oherwydd y pensaernïaeth Rufeinig yn yr ardal. Adnabyddir y dyffryn hefyd fel "Dyffryn y Lleuad" (Arabeg: وادي القمر‎ Wādī al-Qamar). Dyma'r wadi fwyaf yn yr Iorddonen. Mae'r graig wedi'u gwneud o dywodfaen a gwenithfaen. Fel ardal warchodedig gydag arwynebedd o 740 km2, ychwanegwyd ar Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2011. Mae'n gorwedd 60km (37 mi) i'r dwyrain o Aqaba.[2]

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Mae Wadi Rum wedi'i leoli i'r dwyrain o ddinas Aqaba, i'r de o ddinas Ma'an ac yn gyfochrog â Dyffryn Arava, sydd i'r gorllewin yn Ardal Lywodraethol Aqaba. Mae'r wadi yn ardal tua 100 km o hyd a 60 km o led. Fe'i lleolir tua 800m uwch ben lefel y môr, gyda'r drychiadau uchaf o'r ad-Dami Jabal Umm ar 1832m a'r Jabal Ram gyda 1754m.

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]

Anialwch creigiog a thywodlyd yn bennaf; mae rhannau eraill yn lled-anialwch. Pan fydd glaw yn disgyn, dim ond rhwng mis Hydref a mis Mawrth, gyda mis Ionawr yw'r gwlypaf gyda thua 50mm o wlybaniaeth. Yn y gaeaf, gall y tymheredd ddisgyn i ychydig yn uwch na 0°C yn y nos a chodi i 37°C yn yr haf yn ystod y dydd.[3]

Daeareg

[golygu | golygu cod]

Crëwyd y tirwedd tua 30 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Creodd cythrwfl daearegol rwyg enfawr a greodd y 'Jordan Trench', Gwlff Aqaba a'r Môr Coch ochr yn ochr â Wadi Rum. Trwy erydiad y tywodfaen coch ar bedal o fasalt llwyd neu wenithfaen, erydu y graig gan dywod i greu siapiau rhyfedd sydd bellach i'w gweld. Un o'r rhyfeddorau yw'r pontydd craig dros y Jabal Burdah a'r Jabal Kahraz, sydd tua 30km i'r gogledd o rym y pentref.

Oherwydd y ffynonellau dŵr niferus roedd anheddiad nomadig yn bosibl ers Oes y Cerrig. Gall y dŵr glaw, sy'n cwympo yn y gaeaf, dreiddio drwy'r tywodfaen mandyllog, caiff ei stopio gan haen anhydraidd gwenithfaen ac mae'n treiddio ar wahanol bwyntiau eto.[4]

Poblogaeth

[golygu | golygu cod]

Pentref Bedouin Wadi Rum Ym mhentref Wadi Rum mae cannoedd o Bedwin yn byw, yn rhannol mewn pebyll, yn rhannol mewn tai brics. Mae yna ysgol bechgyn a merched, nifer o siopau a gorsaf heddlu.

Mae Wadi Rum wedi cael ei phoblogi gan lawer o ddiwylliannau ers y cyfnod cynhanesyddol. Gadawsant eu marc ar ffurf petroglyffau a themlau. Daeth Wadi Rum yn enwog am y llyfr The Seven Pillars of Wisdom gan y swyddog Prydeinig Thomas Edward Lawrence, a oedd wedi'i leoli yma yn ystod y Gwrthryfel Arabaidd o 1917 i 1918, ac yn ddiweddarach hyd yn oed yn fwy trwy'r ffilm Lawrence o Arabia.[5]

Economi

[golygu | golygu cod]

Twristiaeth

[golygu | golygu cod]

Wadi Rum yw un o'r prif gyrchfannau twristiaeth yn yr Iorddonen. Mae'n boblogaidd i dreulio'r noson dan y sêr, yn marchogaeth gyda cheffylau Arabaidd a heicio a mynydda yn y ffurfiannau craig enfawr. Mae dringwyr yn cael eu denu yn arbennig gan ei ffurfiannau gwenithfaen a thywodfaen, tra bod cerddwyr yn mwynhau'r tawelwch. Y gweithgareddau twristiaeth hyn yw prif ffynhonnell incwm y Bedouins.

Economi ac Ecoleg Hunangynhaliol

[golygu | golygu cod]

Yn yr 2000au sefydlodd yr ecologydd, Geoff Lawton. brosiect permathyddol yn Wadi Rum.[6][7] Mae'r ffarm, y fwyaf yn yr Iorddonen, a 720km2.[8]

Roedd y dirwedd yn lleoliad ar gyfer nifer o ffilmiau difyr sy'n chwarae ar y blaned Mawrth, gan gynnwys Red Planet (2000) a The Martian - Save Mark Watney (2015),Lawrence of Arabia (1962), Rogue One: A Star Wars Story, (2016); a Star Wars: The Rise of Skywalker (2019).

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Team, Almaany. "تعريف و معنى رم رِمٌّ بالعربي في الرائد - معجم عربي عربي - صفحة 1 (definition of Rum in Arabic)". www.almaany.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-01-29.
  2. name="Mannheim2000">Mannheim, Ivan (1 Rhagfyr 2000). Jordan Handbook. Footprint Travel Guides. t. 293. ISBN 978-1-900949-69-9. Cyrchwyd 30 Mai 2012.
  3. weather.msn.com Archifwyd 2008-03-04 yn y Peiriant Wayback: Wetterstation Ma'an
  4. Baedeker Jordanien, S. 257, ISBN 978-3-8297-1153-1
  5. https://www.youtube.com/watch?v=kb0HBNfc_Eg
  6. Craig Mackintosh: From Desert to Oasis in 4 Years (Jordan) Archifwyd 2018-06-19 yn y Peiriant Wayback; 1 Chwefror 2014 permaculturenews.org, adalwyd 19 Mehefin 2018
  7. "Energy self-sufficiency on a Scottish island, gardens in the sky, flushing with pride and restoring the Jordan Valley". Al Jazeera. 7 Gorffennaf 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 3 Mawrth 2016.
  8. https://www.amusingplanet.com/2014/04/organic-farming-in-deserts-of-wadi-rum.html