Triongl
Enghraifft o'r canlynol | siâp geometrig |
---|---|
Math | bicentric polygon, simplex, tritope, polygon, planar generalized triangle |
Rhagflaenwyd gan | digon, segment o linell |
Olynwyd gan | Pedrochr, tetrahedron |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Polygon sydd â thair ochr llinell a thri fertig yw triongl (enw gwrywaidd). Mae'n un o'r siapiau sylfaenol mewn geometreg. Mae triongl gyda fertigau A, B, a C yn cael ei ddynodi mewn mathemateg fel . Mae cyfanswm onglau mewnol pob triongl yn 180 ° a chyfanswm yr onglau allanol yn 360 °.
Mewn geometreg Ewclidaidd, mae unrhyw dri phwynt, pan nad ydynt yn unllin (collinear), yn pennu triongl unigryw ac ar yr un pryd, plân unigryw (hy, lle Ewclidaidd dau-ddimensiwn). Mae'r erthygl hon yn ymwneud â thrionglau mewn geometreg Ewclidaidd, ac yn arbennig, y plân Ewclidaidd, ac eithrio lle nodir fel arall.
Mathau
[golygu | golygu cod]Gallwn ddosbarthu'r gwahanol fathau o drionglau mewn sawl ffordd, gan gynnwys gan edrych ar hyd ei llinellau (neu 'ochrau') neu yn ôl y trionglau sydd ynddynt.
Mathau yn ôl hyd yr ochrau
[golygu | golygu cod]Mae'r triongl hafalochrog yn bolygon rheolaidd, mae'r isosceles a'r anghyfochrog yn bolygonau afreolaidd.
Enw | Diagram | Ochrau | Onglau |
---|---|---|---|
Triongl hafalochrog | Mae pob ochr yn gyfartal (yr un hyd) | Mae pob ongl yn hafal; pob un yn 60 °.[1] | |
Triongl Iosceles | Mae rhai mathemategwyr yn diffinio triongl isosceles fel triongl sydd â dwy ochr gyfartal yn union, tra bod eraill yn diffinio triongl isosceles fel un gydag o leiaf dwy ochr gyfartal.[2] | Ceir dwy ongl sy'n gyfartal. | |
Triongl anghyfochrog | Mae pob ochr yn anghyfartal | Mae pob ongl yn anghyfartal |
Mathau yn ôl yr onglau
[golygu | golygu cod]Gellir hefyd ddidoli trionglau yn ôl maint eu honglau mewnol. Dywedir fod trionglau lem ac aflem hefyd yn drionglau arodgo'.[3]
Polygonau |
Triongl | Pedrochr | Pentagon | Hecsagon | Heptagon | Octagon | Nonagon | Decagon | Hendecagon | Dodecagon | Triskaidecagon | Tetradecagon | Pentadecagon | Hexadecagon | Heptadecagon | Octadecagon | Enneadecagon | Icosagon | Chiliagon | Myriagon |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Weisstein, Eric W. "Equilateral Triangle". MathWorld.
- ↑ Weisstein, Eric W. "Isosceles Triangle". MathWorld.
- ↑ termau.cymru; adalwyd 7 Medi 2018.