Siachmat
Siachmat yw sefyllfa mewn Gwyddbwyll lle bod Brenin un chwaraewr yn cael ei fygwth, ac yn methu dianc na chael gwared ar y bygythiad. Dyw'r Brenin byth yn cael ei gipio neu ei ladd mewn Gwyddbwyll, gan fod y gêm yn dod i ben pan fo'r Brenin mewn Siachmat. Mae'r person sydd mewn Siachmat yn colli'r gem.
Os yw'r Brenin yn cael ei fygwth gelwir hyn y Siach, ond gellir symud allan o Siach drwy symud i sgwâr sydd ddim yn cael ei fygwth gan y gelyn, cymryd y darn sy'n ei fygwth ei hun neu gyda darn arall, neu flocio'r bygythiad. Mae Siach lle nad yw'r Brenin yn medru gwneud yr un o'r rhain yn Siachmat.
Daw'r term yn ôl rhai geiriaduron o Arabeg, ac mae'n ddatblygiad o'r dywediad "شاه مات". Ystyr llythrennol hyn yw "mae'r Brenin yn ddiaymadferth" neu "mae'r Brenin wedi'i drechu".
Siachmat ar waith
[golygu | golygu cod]Os oes gan un chwaraewr fantais sylweddol dros y llall mae'n haws o lawer i gael Siachmat. Serch hynny, y lleiafswm o ddarnau sydd angen i gyflawni Siachmat yw:
All Marchog yn unig, ac Esgob yn unig ddim creu Siachmat, ac mae'n amhosib i ddau Farchog i orfodi Siachmat os yw'r chwaraewr arall yn gwybod beth mae'n gwneud. Ym mhob un o'r sefyllfaoedd hyn mae angen y Brenin i gynorthwyo. Os oes gan berson lawer o ddarnau ar ôl, does dim angen cymorth y Brenin.
Siachmat elfennol
[golygu | golygu cod]
Un sefyllfa gyffredin mewn Gwyddbwyll yw ble mae gan un chwaraewr ddau Gastell, neu Gastell a Brenhines, ac mae'n eu defnyddio i greu Siachmat drwy wthio Brenin y gwrthwynebydd i ymyl y bwrdd. Bydd y ddau ddarn yn gweithio gyda'i gilydd i osod Siach am yn ail ar y Brenin, ac wedi i'r Brenin gilio i ymyl y bwrdd bydd un o'r ddau yn ei roi mewn Siachmat. | ||
Siachmat Brenhines
[golygu | golygu cod]Mae'r ddau ddiagram yn dangos y ddau Siachmat elfennol gyda'r Frenhines. Gall yr union sgwariau amrywio, ond mae'r egwyddor yr un peth.
| ||
Siachmat Castell
[golygu | golygu cod]
Mae'r ddau ddiagram yn dangos y ddau Siachmat elfennol gyda'r Castell. Yr un egwyddor sydd ar waith gyda Siachmat Castell â Siachmat y Frenhines, sef gwthio Brenin y gwrthwynebydd yn ôl i'r ymyl a defnyddio'r Brenin i gynorthwyo wrth greu Siachmat. | ||
Siachmat Dau Esgob
[golygu | golygu cod]
Mae dwy brif ffordd o orfodi Siachmat gyda dau Esgob, a gall rhain ddigwydd ar unrhyw gornel o'r bwrdd. Mae'r cyntaf yn Siachmat mewn cornel, a'r ail yn y sgwâr nesaf at y gornel. Dyw hi ddim yn anodd i ddau Esgob orfodi Siachmat, ond mae'n rhaid dilyn dwy egwyddor wrth wneud hynny: | ||
Siachmat Esgob a Marchog
[golygu | golygu cod]
Hwn yw'r Siachmat anoddaf i'w orfodi, a dim ond mewn cornel mae'r Esgob yn rheoli mae modd gwneud hynny. Dyma ddwy sefyllfa wahanol ble mae'r ddau ddarn wedi cyfuno i greu Siachmat gydag Esgob a Marchog. Mae'r un cyntaf yn Siachmat gyda'r Esgob, a'r ail yn Siachmat gyda'r Marchog. Yn yr ail lun gallai'r Marchog fod ar c6 neu d7.
| ||
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Iolo Jones a T. Llew Jones, A Chwaraei Di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980), t. 38.