Sainte-Chapelle
Delwedd:Szensapel.jpg, Paris Sainte Chapelle East View 02.JPG | |
Math | capel, secularized church |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | saintes chapelles |
Sir | Saint-Germain-l'Auxerrois, Bwrdeistref 1af Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.855369°N 2.345028°E |
Rheolir gan | Centre des monuments nationaux |
Arddull pensaernïol | Rayonnant |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Sefydlwydwyd gan | Louis IX, brenin Ffrainc |
Manylion | |
Esgobaeth | Archesgobaeth Paris |
Capel yn yr arddull Gothig yng nghanol dinas Paris yn Ffrainc yw Sainte-Chapelle. Saif yn ardal Île de la Cité, ac fe'i hystyrir yn un o gampweithiau'r arddull Gothig.
Adeiladwyd y Sainte-Chapelle i ddal y creiriau crefyddol a ddygwyd i Ffrainc o Syria gan Louis IX, brenin Ffrainc. Roedd y rhain yn cynnwys y goron ddrain a phen haearn y waywffon a ddefnyddiwyd pan groeshoeliwyd Iesu Grist. Mae'n debyg i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 1241, ac fe'i cysegrwyd yn 1248. Credir mai Pierre de Montreuil oedd yn gyfrifol am y gwaith. Yn ddiweddarach symudwyd y creiriau i Notre-Dame de Paris. Ar ôl tân 2019, fe'u symudwyd i'r Louvre.[1]
Mae'r adeilad yn cynnwys dau gapel, y capel isaf ar gyfer y bobl gyffredin a'r capel uchaf ar gyfer y brenin a'i lys. Ystyrir gwydr lliw ffenestri'r capel uchaf ymhlith yr esiamplau gwychaf o wydr lliw eglwysig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Shaw, Annie (16 Ebrill 2019). "Precious Works Rescued from Notre Dame to be Transferred to the Louvre". The Art Newspaper (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Mehefin 2019.