Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan
Gwrthdaro herwfilwrol a ymladdwyd gan wrthryfelwyr y mujahideen yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd Affganistan a'r Undeb Sofietaidd oedd Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan a barodd trwy gydol y 1980au. Rhyfel trwy ddirprwy ydoedd rhwng dwy ochr y Rhyfel Oer, a derbyniodd y mujahideen gymorth oddi ar elynion yr Undeb Sofietaidd, yn enwedig Unol Daleithiau America. Aeth y brwydro yn anhrefn hynod o waedlyd a distrywiol, gan gynnwys gwrthryfeloedd lleol, bomio o'r awyr ar raddfa eang, gosod miliynau o ffrwydron tir, a chyflafanau o bentrefi cyfan. Bu farw rhwng pum can mil a dwy filiwn o Affganiaid, rhyw 6.5–11.5% o boblogaeth y wlad, a mudodd miliynau o ffoaduriaid i Bacistan, Iran, a gwledydd eraill. Enciliodd y lluoedd Sofietaidd o Affganistan wedi naw mlynedd o ryfela annatrys, a chyfrannodd y methiant hwn at gwymp yr Undeb Sofietaidd.
Y goresgyniad Sofietaidd (1979–80)
Sail resymegol yr ymyrraeth
[golygu | golygu cod]Wrth i'r rhyfel cartref yn Affganistan waethygu, bu prif swyddogion Lluoedd Arfog yr Undeb Sofietaidd yn llawn amheuon am ymyrraeth filwrol yn y wlad honno. Serch hynny, gorchmynnwyd goresgyniad y wlad gan y llywodraeth ym Moscfa er mwyn sefydlogi Canolbarth Asia a sicrhau bod Affganistan yn rhan o faes dylanwad y bloc comiwnyddol.
Storm-333
[golygu | golygu cod]Prif gyrch y goresgyniad Sofietaidd oedd Ymgyrch Storm-333, achos o weithredu cudd gan luoedd arbennig i gipio Palas Tajbeg yn Kabul, prifddinas Affganistan, a dymchwel llywodraeth Hafizullah Amin, arweinydd Plaid Ddemocrataidd Pobl Affganistan. Ar 27 Rhagfyr 1979 dygodd Spetsnaz a milwyr o'r awyr gudd-gyrch ar Balas Tajbeg, gan lofruddio Amin. Fel rhan o'r ymgyrch ehangach, croesai degau o filoedd o danciau y ffin ar hyd afon Amu Darya, a chludwyd milwyr i feysydd awyr yn y wlad. Ar 28 Rhagfyr, darlledwyd araith gan Babrak Karmal yn cyhoeddi bod Amin wedi ei ddymchwel ac yn datgan ei hun yn olynydd iddo.
Strategaeth gychwynnol y feddiannaeth
[golygu | golygu cod]Wedi'r goresgyniad, lluniodd y Sofietiaid gynllun rhyfel a ymddangosai yn syml ar y cychwyn, gyda'r gobaith o feddiannu prif safleoedd y wlad, cynorthwyo'r Affganiaid i ddofi'r cefn gwlad yn chwim, ac i sefydlu gwladwriaeth ddibynnol dan lywodraeth effeithiol. Prif amcanion y strategaeth oedd i sefydlogi'r sefyllfa wleidyddol yn Affganistan; atgyfnerthu, ail-hyfforddi, a chynyddu lluoedd yr Affganiaid er mwyn galluogi iddynt ostegu'r gwrthryfel; defnyddio lluoedd arfog yr Undeb Sofietaidd i gyflawni gorchwylion arferol wrth garsiynau'r dinasoedd a threfi mawrion; a diogelu isadeiledd y wlad, gan gynnwys y priffyrdd, argaeau, a chyflenwadau nwy a thrydan. Y nod oedd i encilio'r lluoedd Sofietaidd cyn pen tair blynedd, gan adael llywodraeth gomiwnyddol gryf a chyfeillgar yn Kabul i gadw'r heddwch, gyda chymorth cynghorwyr, arfau a thechnoleg dan nawdd yr Undeb Sofietaidd.[1]
Er gwaethaf gobeithion y Sofietiaid, gwaethygodd y rhyfel cartref yn Affganistan ac aeth yr holl gefn gwlad, a nifer o'r dinasoedd, yn ansefydlog. Digalonnai'r lluoedd gwladwriaethol wrth iddynt fethu â gostegu'r gwrthryfeloedd, ac felly gostyngai'u heffeithioldeb ar faes y gad. Bu'r Sofietiaid yn pryderu am gywilydd yn llygaid y byd yn ogystal â methiant milwrol enfawr a chwymp y comiwnyddion yn Kabul os oeddynt am encilio'u lluoedd heb sicrhau buddugoliaeth lwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gregory Fremont-Barnes, The Soviet–Afghan War 1979–89 (Rhydychen: Osprey, 2012), t. 9.