Luhansk
Math | dinas yn Wcráin, tref/dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Luhan |
Poblogaeth | 417,990 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Manolis Piławow |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, EET |
Gefeilldref/i | Rostov-ar-Ddon, Lublin, Caerdydd, Saint-Étienne, Daqing, Székesfehérvár, Pernik, Bwrdeistref Vansbro, Belgorod, Voronezh, Nizhniy Tagil, Santos, Moscfa |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Luhansk urban hromada |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 257 km² |
Uwch y môr | 105 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 48.571708°N 39.297315°E |
Cod post | 91001–91479, 291001–291479 |
Pennaeth y Llywodraeth | Manolis Piławow |
Dinas yn nwyrain Wcráin ger y ffin â Rwsia yn ardal ddadleuol y Donbas yw Luhansk (Wcreineg: Луганськ, yngenir [lʊˈɦɑnʲsʲk]) neu Lugansk (Rwseg: Луганск, yngenir [lʊˈɡansk]; trawnslythrennu: Lwgansc),[1] a elwid gynt yn Voroshilovgrad (Wcreineg a Rwseg: Ворошиловград) yn 1935-1958 a 1970-1990. Ar hyn o bryd, mae Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar Weriniaeth Pobl Luhansk, ardal a dorrodd yn rhydd yn 2014 o blaid Rwsia. Y ddinas hon a'r ardaloedd cyfagos sydd wedi bod yn un o'r prif safleoedd Rhyfel y Donbas. Nes i Luhansk gael ei chipio gan y Weriniaeth, canolfan weinyddol Oblast Luhansk oedd hi. Amcangyfrifir mai 399,559 o bobl sydd yn byw yn y ddinas heddiw.[2]
History
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn olrhain ei hanes yn ôl i 1795 pan sefydlodd y diwydiannwr Prydeinig Charles Gascoigne ffatri fetel ger anheddiad y Cosaciaid Zaporizhiaidd, Kamianyi Brid. Roedd yr anheddiad o gwmpas y ffatri yn dwyn yr enw Luganskiy Zavod a chyfunwyd hi â thref Kamianyi Brid yn 1882 i greu dinas Luhansk. Ar Fasn Donets, datblygodd Luhansk yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn Nwyrain Ewrop, yn enwedig fel cartref i gwmni mawr adeiladu locomotifau Luhanskteplovoz. Meddiannwyd y ddinas gan yr Almaen Natsïaidd rhwng 14 Gorffennaf 1942 a 14 Chwefror 1943.
Ar 5 Tachwedd 1935, ailenwyd y ddinas yn Voroshilovgrad (Rwsieg: Ворошиловград; Wcreineg: Ворошиловград) er mwyn anrhydeddu'r cadlywydd a'r gwleidydd Sofietaidd Kliment Voroshilov. Ar 5 Mawrth 1958, yn dilyn galwad gan Khrushchev i beidio â rhoi enwau pobl fyw ar ddinasoedd, adferwyd yr hen enw.[3][4] Ar 5 Ionawr 1970, ar ôl marwolaeth Voroshilov ar 2 Rhagfyr 1969, newidiwyd yr enw eto i Voroshilovgrad. O'r diwedd, ar 4 Mai 1990, rhoddodd archddyfarniad gan Senedd Wcráin yr enw gwreiddiol yn ôl i'r ddinas.
Yn 1994, bu refferendwm yn Oblast Donetsk ac Oblast Luhansk, pan gefnogodd oddeutu 90% o bobl y cynnig i roi statws swyddogol i Rwseg ochr yn ochr â'r Wcreineg, ac i Rwseg fod yn iaith swyddogol ar lefel ranbarthol. Er hynny, dirymwyd y refferendwm hwn gan lywodraeth Wcráin.[5]
Yn ystod y rhyfel yn y Donbas, cipiodd ymwahanwyr adeiladau'r llywodraeth yn yr ardal, gan ddatgan fodolaeth Gweriniaeth Pobl Luhansk. Cynhaliwyd refferendwm ar annibyniaeth, a oedd yn anghyfansoddiadol dan gyfraith Wcráin, ar 11 Mai 2014. Ni chydnabuwyd hwn fel refferendwm cyfreithlon gan unrhyw lywodraeth heblaw De Osetia.[6][7] Nid yw Wcráin yn cydnabod y refferendwm a dywedodd yr UE ac UDA fod y reffereda yn anghyfreithlon hefyd.[8]
Ar 25 Mehefin 2014, pennodd llywodraeth ymwahanol Gweriniaeth Pobl Luhansk y ddinas yn brifddinas iddi.[9]
Ym mis Awst 2014, amgylchynodd lluoedd Wcráin Luhansk, a oedd yn nwylo'r gwrthryfedlwyr.[10] Anafwyd nifer wedi i daflegrau fwrw'r ddinas.[11][12][13] Ar 17 Awst, aeth milwyr Wcráin i mewn i Luhansk ac roedd ganddynt reolaeth dros orsaf heddlu am ychydig.[14]
Ar ôl gwrthymosodiad brwydr Ilovaisk, adenillodd lluoedd y Weriniaeth Lutuhyne a maestrefi eraill yn Luhansk. Tynnodd lluoedd Wcráin yn ôl o Faes Awyr Rhyngwladol Luhansk ar 1 Medi 2014 ar ôl ymladd chwyrn.[15]
Daeth Luhansk yn brifddinas a chanolfan weinyddol ar y Weriniaeth ac felly symudodd llywodraeth Wcráin wweinyddiaeth Oblast Luhansk i Sievierodonetsk.
Addysg uwch
[golygu | golygu cod]Mae rhai o brifysgolion enwocaf Wcráin yn Luhansk. Luhansk yw leoliad prif gampysau Prifysgol Genedlaethol Tara Shevchenko Wcráin, Prifysgol Genedlaethol Volodymyr Dahl Dwyrain Wcráin a Phrifysgol Feddygol Wladol Luhansk.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad Wcráin yn 2001,[16] 49.6% o'r drigolion oedd yn dweud mai Wcreiniaid ethnig oedden nhw a 47% mai Rwsiaid ethnig oeddynt. Roedd 85.3% yn siarad Rwsieg, yr iaith frodorol fwyaf yno, ac 13.7% oedd yn siarad Wcreineg fel iaith frodorol. Cafwyd niferoedd llai yn siarad Armeneg (0.2%) a Belarwseg (0.1%).
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae Luhansk yn gartref i dîm pêl-droed Zorya Luhansk, sydd nawr yn chwarae ym mhencampwriaeth flynyddol Uwch Gynghrair Wcráin ac yn Stadiwm Avanhard. Enilloedd y clwb Gynghrair Uwch y Sofietiaid yn 1972.
Dynamo Luhansk oedd y tîm arall y bu'r ddinas yn gartref iddo.
Cefnen Merheleva
[golygu | golygu cod]Ar 7 Medi 2006, cyhoeddodd archaeolegwyr yn Wcráin iddynt ddarganfod strwythur hynafol ger Luhansk ac roedd y wasg yn adrodd mai pyramid a oedd o leiaf 300 mlynedd yn hŷn yn na rhai'r Aifft oedd hwn. Dywedwyd bod ei sylfeini cerrig yn debyg i rai pyramidau'r Asteciaid a'r Maias ym Mesoamerica. Daethpwyd i'r casgliad wedyn nad pyramid oedd y safle hwn ond ei fod o ddiddordeb mawr er hynny.
Oriel
[golygu | golygu cod]Yn ystod 2014 a 2015, bu Luhansk yn safle i ymladd chwyrn ac felly mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau hyn wedi cael rhywfaint o ddifrod. Mae'n bosibl bod rhai wedi cael eu chwalu.
-
Prifysgol Luhansk
-
Stryd Radianska Street yn ystod y nos
-
Gwesty Luhansk
-
Gorsaf Reilffordd Luhansk
-
Adeiladau Sofietaidd yng nghanol y ddinas
-
Hen ysbyty'r ddinas
-
Theatr Luhansk
-
Siop gyfarpar trydanol, wedi'i ddifrodi yn Rhyfel y Donbas
-
Cofeb i Arwyr y Chwyldro
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Valeriy Brumel (1942–2003), pencampwr Olympaidd Sofietaidd
- Yelyzaveta Bryzhina (ganwyd 1989), gwibiwr Wcreinadd a enillodd fedal efydd yn ras gyfnewid 4 × 100m Gemau Olympaidd 2012
- Sergey Bubka (ganwyd 1963), neidiwr polyn Sofietaidd ac Wcreinadd, pencampwr Olympaidd a chyn-ddeiliad record byd,
- Vasiliy Bubka (ganwyd 1960), neidiwr polyn Sofietaidd ac Wcreinadd
- Vladimir Dal (1801–1872), geiriadurwr Rwsiaidd
- Fedor Emelianenko (ganwyd 1976), pencampwr crefft ymladd gymysg
- Mikhail Matusovsky (1915–1990), bardd Sofietaidd ac ysgrifennwr caneuon
- Viktor Onopko, peldroediwr Rwsiaidd
- Sergei Semak, peldroediwr Rwsiaidd
- Andriy Serdinov (ganwyd 1982), nofiwr
- Nikolay Shmatko (ganwyd 1943), cerfluniwr, arlunydd ac athro prifysgol
- Anton Shoutvin (ganwyd 1989), chwaraewr pêl-fasged Israelaidd
- Tetyana Tereshchuk-Antipova (born 1969), clwydwr 400m
- Kliment Voroshilov (1881–1969), cadlywydd Sofietaidd
- Oleksandr Zavarov (ganwyd 1961), chwaraewr a hyfforddwr Sofietaidd ac Wcreinaidd
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]- Caerdydd, Cymru[17][18]
- Lublin, Gwlad Pwyl[18][19]
- Székesfehérvár, Hwngari[18][20]
- Daqing, Tsieina[18][21]
- Saint-Étienne, Ffrainc[18][22]
- Pernik, Bwlgaria[18]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://pedwargwynt.cymru/adolygu/gareth-jones-y-llyfrau-y-ffilmiau-y-propaganda
- ↑ "Чисельність наявного населення України (Gwir Boblogaeth Wcráin)" (PDF). Державний Комітет Статистики України (Gwasanaeth Ystadegau Gwladol Wcráin). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2022-04-06. Cyrchwyd 3 Mawrth 2022.
- ↑ 'Военная Литература' – Биографии – С.Н. Хрущёв ['Military Literature' – Biographies – S. N. Khrushchev] (yn Rwseg). Militera.lib.ru. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ "Записки из Якирова Посада – Луганск-Ворошиловград-Луганск". Shusek.livejournal.com. 2 November 2009. Cyrchwyd 16 September 2011.
- ↑ Донбасс: забытый референдум-1994 [Donbas: the forgotten referendum-1994] (yn Rwseg). Thekievtimes.ua. 14 May 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-05. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ "Ukraine's Eastern Region Of Luhansk May Now Hold Referendum On Joining Russia". Business Insider. Cyrchwyd 12 May 2014.
- ↑ "South Ossetia recognises independence of Donetsk People's Republic". Information Telegraph Agency of Russia. 27 June 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 28 June 2014.
- ↑ "Ukraine rebels seek to join Russia". 12 May 2014. Cyrchwyd 15 April 2019.
- ↑ ЗАКОН 'О системе исполнительных органов государственной власти Луганской Народной Республики' [LAW 'On the system of executive bodies of state power of the Lugansk People's Republic'] (yn Rwseg). lugansk-online.info. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2014. Cyrchwyd 23 November 2014.
- ↑ "East Ukraine city of Luhansk dying under siege, residents say". The Denver Post. 5 August 2014.
- ↑ "Ukraine conflict: Under siege in Luhansk". Bbc.com. 13 August 2014. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ "In Shell-Torn Luhansk, Food and Water Is Scarce: 'Welcome to Hell!'". Newsweek. 15 August 2014.
- ↑ Magnay, Diana; Lister, Tim (3 June 2014). "Air attack on pro-Russian separatists in Luhansk kills 8, stuns city". CNN. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ "Ukraine troops claim breakthrough in battle for rebel city Luhansk". The Guardian. Reuters. 17 August 2014. Cyrchwyd 17 August 2014.
- ↑ "Ukraine crisis: Troops abandon Luhansk airport after clashes". Bbc.com. 1 September 2014. Cyrchwyd 30 October 2017.
- ↑ "All-Ukrainian Population Census '2001". State Statistics Committee of Ukraine.
- ↑ "Cardiff's twin cities". Cardiff Council. 15 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2011. Cyrchwyd 10 August 2010.
- ↑ 18.0 18.1 18.2 18.3 18.4 18.5 "History of Luhansk". Official site of Luhansk City Council. 15 October 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-17. Cyrchwyd 10 June 2015.
- ↑ "Miasta Partnerskie Lublina" [Partner Cities of Lublin]. Lublin.eu (yn Pwyleg). Lublin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 January 2013. Cyrchwyd 7 August 2013.
- ↑ "Partnervárosok Névsora Partner és Testvérvárosok Névsora" [Partner and Twin Cities List]. City of Székesfehérvár (yn Hwngareg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2012. Cyrchwyd 5 August 2013.
- ↑ "大庆市与乌克兰卢甘斯克市的往来纪实". 大庆市外事侨务网站. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 May 2015. Cyrchwyd 14 July 2014.
- ↑ Sue Bridger; Frances Pine (11 January 2013). Surviving Post-Socialism: Local Strategies and Regional Responses in Eastern Europe and the Former Soviet Union. Routledge. t. 190. ISBN 978-1-135-10715-4. Cyrchwyd 9 June 2015.