Lindisfarne
Math | ynys lanwol |
---|---|
Poblogaeth | 160 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Northumberland |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 4 km² |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 55.68°N 1.8025°W |
Cod OS | NU129420 |
Cod post | TD15 |
Ynys sanctaidd ger arfordir Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Lindisfarne, hefyd Ynys Holy[1] (Saesneg: Holy Island). Ynys Metcaud neu Medgawdd oedd yr hen enw Cymraeg.[2] Ar wahân i adegau o lanw uchel, mae modd gyrru car i'r ynys. Roedd y boblogaeth yn 180 yn 2011. Dynodwyd rhan helaeth o'r ynys yn Warchodfa Natur, a cheir amrywiaeth o adar yma.
Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir hanes gwarchae ar yr ynys. Yn y 6g gwnaed cynghrair rhwng teyrnasoedd Brythonig yr Hen Ogledd i ymladd yn erbyn yr Eingl. Bu Urien Rheged, Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, Gwallawc Marchawc Trin o Elmet a Morgant Bwlch yn gwarchae Eingl Brynaich ar yr ynys, a oedd wedi'u gyrru o'u prifddinas Din Guardi. Fodd bynnag, roedd Morgant yn genfigennus o lwyddiant Urien, a threfnodd i Llofan Llaf Difo ei lofruddio.
Sefydlwyd abaty Lindisfarne gan Sant Aidan o Iwerddon, a yrrwyd o Iona ar gais Oswallt, brenin Northumbria tua 635. Yn ddiweddarch bu nawdd-sant yr ynys, Cwthbert o Lindisfarne yn abad ac yn esgob yma.
Rywbryd tua dechrau'r 700au, cynhyrchwyd Efengylau Lindisfarne yma. Yn 793 ymosodwyd ar yr ynys gan y Llychlynwyr; ystyrir mai'r ymosodiad yma oedd dechrau oes yr ymosodiadau Llychlynnaidd ar Loegr. Bu ymosodiadau pellach, gan orfodi'r myneich i adael yr ynys.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cwthbert, sant o Frynaich (wedyn: Northumbria)