Clydno Eidyn
Clydno Eidyn | |
---|---|
Ganwyd | 525, 525 |
Bu farw | 597 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Cynwyd ap Cynfelyn |
Plant | Cynan ab Clydno |
Tywysog neu bendefig o'r Hen Ogledd oedd Clydno Eidyn (fl. 6g). Yn rhai o'r achau, disgrifir ef fel mab Cynfelyn ap Dyfnwal Hen, tra yn y testun achyddol Bonedd Gwŷr y Gogledd disgrifir ef fel mab i Cynwyd Cynwydion. Awgryma ei enw y gallai fod yn arglwydd Din Eidyn, ac efallai yn rhagflaenydd Mynyddog Mwynfawr.
Hanes a thraddodiad
[golygu | golygu cod]Roedd ganddo fab o'r enw Cynon ap Clydno Eidyn, ac yn chwedl Culhwch ac Olwen crybwyllir merch iddo o'r enw Eurneid. Yn ôl Bonedd y Saint, ei ferch Euronwy oedd mam Grwst, nawddsant Llanrwst.
Yn Llyfr Du'r Waun, dywedir i Elidir Mwynfawr gael ei ladd yn "Aber Meuhedud" yn Arfon, ac i nifer o Wŷr y Gogledd, yn cynnwys Clydno Eidyn, Nudd Hael, Mordaf Hael a Rhydderch Hael arwain byddin i Arfon i geisio dial, ond iddynt gael eu gorchfygu gan Rhun ap Maelgwn Gwynedd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0