Neidio i'r cynnwys

Joseph Addison

Oddi ar Wicipedia
Joseph Addison
Ganwyd1 Mai 1672 Edit this on Wikidata
Milston Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 1719 Edit this on Wikidata
Kensington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, llenor, dramodydd, bardd, newyddiadurwr, golygydd, libretydd, gohebydd, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolChwigiaid Edit this on Wikidata
TadLancelot Addison Edit this on Wikidata
MamJane Gulston Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Addison Edit this on Wikidata
llofnod

Ysgrifwr, bardd, a dramodydd yn yr iaith Saesneg a gwleidydd o Loegr oedd Joseph Addison (1 Mai 167217 Mehefin 1719). Drwy gyd-sefydlu a golygu cylchgronau The Tatler a The Spectator gyda Richard Steele, cyfrannai yn sylfaenol at ddiwylliant llenyddol Lloegr yn y 18g. Fe'i disgrifir yn Y Gwyddoniadur Cymreig fel "un o brif addurniadau llenyddiaeth Saesneg".[1]

Ganed ym mheriglordy Milston, Wiltshire, yn fab i'r Dr Lancelot Addison, periglor y plwyf a fyddai wedi hynny yn ddeon Caerlwytgoed, Swydd Stafford. Ar ôl derbyn elfennau ei addysg gartref, yng Nghaersallog, a Chaerlwytgoed, symudwyd ef i Ysgol Charterhouse yn Smithfield, Llundain, a oedd ar y pryd hwnnw o dan arolygiaeth Dr Ellis. Yno daeth i gydnabyddiaeth a ffurfiodd gyfeillgarwch gyntaf â Richard Steele. Ym 1687, aeth i Goleg y Frenhines, Rhydychen, a dwy flynedd yn ddiweddarach etholwyd ef yn ysgolor yng Ngholeg Magdalen. Yn y blynyddoedd dyfodol, enillodd gymeriad uchel oherwydd ei allu i gyfansoddi barddoniaeth Ladin. Ym 1693 y gwnaeth ei gais cyntaf i farddoni yn yr iaith Saesneg. Cyfansoddodd gân fechan i annerch John Dryden, y Bardd Llawryfog, a edmygid yn fawr gan y beirniaid gorau. Ymddengys ei fod, ar un adeg, yn barod i ddilyn esiampl ei dad, a chymryd ei ordeinio yn weinidog yn Eglwys Loegr, ond disgynnodd rhywbeth i beri iddo roddi heibio y penderfyniad hwn. Drwy offerynoliaeth yr Arglwydd Somers, penderfynodd y llywodraeth roddi iddo flwydd-dâl o £300, a'i galluogodd, tua diwedd 1699, i foddio ei dueddfryd i fynd ar daith drwy'r Eidal. Ar ei ddychweliad yn ôl, ym 1703, cyhoeddodd hanes ei deithiau. Ar farwolaeth Wiliam III, daeth y Torïaid i awdurdod, ac ataliwyd ei flwydd-dâl a ni dderbyniodd ond am un flwyddyn, a bu Addison am beth amser megis yn segura. Ond ym 1704, dechreuodd cyfnod newydd ar ei fywyd, a barhaodd hyd 1710, pan yr oedd yn 38 oed. Dyma gyfnod cyntaf ei yrfa swyddol, ac er ei fod yn hollol ddiffrwyth ym mron o ran cynhyrchion llenyddol, yr oedd ddigon uwchlaw angen. O hynny allan roedd ei safle fel dyn cyhoeddus wedi ei sefydlu.

Cymeradwywyd ef i sylw yr Arglwydd Godolphin fel un cymwys i ddathlu buddugoliaeth Dug Marlborough yn Blenheim. O ganlyniad i hynny, cyfansoddodd y bryddest a elwir "The Campaign", a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth mawr ac a arweiniodd i'w benodiad yn un o ddirprwywyr yr apêl perthynol i'r cyllid. Ym 1706, gwnaed ef yn un o ysgrifenyddion y wladwriaeth, a thua'r pryd hwn y cyfansoddodd ei opera a elwir Rosamond. Etholwyd ef yn aelod o Senedd Prydain Fawr ym 1708, ac eisteddai yn Nhŷ'r Cyffredin yn gyntaf dros Lostwithiel ac wedi hynny dros Malmesbury, ac etholwyd ef chwe gwaith i'w chynrychioli, sef o 1710 hyd ei farwolaeth. Methiant ydoedd ei fywyd seneddol yn ddiau. Nid ydyw yn hysbys pa ran a gymerwyd ganddo ym manylion y gweithrediadau a ddygid ymlaen, ond yr oedd bob amser yn aelod distaw, oddi eithr ei fod wedi gwneud ymgais i siarad unwaith, pryd y gorfodwyd ef i eistedd i lawr mewn dryswch. Mynegir amdano hefyd ei fod mor fanwl ynghylch cyfansoddiad ei frawddegau, fel y byddai hynny yn ei ddrysu weithiau pan yn paratoi bryslythyr pwysig yn frysiog, ac iddo lawer gwaith orfod rhoddi y gorchwyl i un o'i ysgrifenyddion, er mwyn ei gael mewn pryd.

Ym 1709, aeth drosodd i Iwerddon yn ysgrifennydd i'r Ardalydd Wharton, yr arglwydd raglaw, a phenododd y frenhines ef yn geidwad y cofnodion. Eisteddai hefyd, yn Senedd Iwerddon, yn aelod dros Fwrdeistref Cavan o 1709 i 1713. Mae'r saith mlynedd hyn o'i fywyd swyddol ym mron yn wagnod mewn ystyr lenyddol yn ei hanes, nes y deuir yn agos i'w terfyn. Yn ystod misoedd diweddaf ei dymor swyddol, pa fodd bynnag, ysgrifennodd lawer i The Tatler, a ddygwyd allan gan ei hen gyfaill Richard Steele. Aeth y Chwigiaid allan o awdurdod, a bu'r Torïaid yn llywodraethu hyd ddiwedd teyrnasiad Ann ym 1714, felly rhyddhawyd Addison o hualau swydd, a chafodd gyflwyno pedair blynedd gorau ei oes i gyfoethogi llenyddiaeth y Saeson, ac hefyd i ychwanegu yn fawr at ei enwogrwydd ei hun. Treuliwyd y pedair blynedd hyn yn bennaf ganddo i gyfansoddi ei draethodau cyfnodol digyffelyb. Rhoes y gorau i The Tatler yn nechrau 1711, a dilynwyd ef gan The Spectator, a ddaeth allan yn gyntaf ar 1 Mawrth 1711. Parhaodd i ddyfod allan bob dydd ond y Sul hyd 6 Rhagfyr 1712. Erbyn hynny, roedd y 555 o rifynnau a gasglwyd yn y saith gyfrol gyntaf wedi eu cwblhau, a chydlafuriodd Addison â Steele ar hyd y ddwy flynedd hynny. I Addison, yn ddiamau, yr oedd The Spectator yn ddyledus, i raddau mawr, am brif ragoriaethau. Byddai ei bapurau yn cael eu llawnodi ag un o'r llythrennau a ffurfiai enw yr awen, sef Clio. Mor fawr oedd poblogrwydd The Spectator fel y mynegir fod tuag ugain mil o gopïau ohono, weithiau, yn cael eu gwerthu mewn diwrnod. Pan y rhoddwyd ef i fyny, cyhoeddodd Steele y Guardian ym Mawrth 1713, ond darfu gyda'r rhifyn 175. Cyfansoddwyd 53 o draethodau'r Guardian gan Addison, ond nid ydynt, ar y cyfan, mor ragorol a'i draethodau yn The Spectator. Ym misoedd diwethaf 1714 ymddangosodd yr wythfed, a'r olaf, o gyfrolau The Spectator. O'r traethodau sydd yn y gyfrol hon, mae 24 o law Addison, ac yn eu mysg amryw o'r rhai rhagoraf o'i holl ysgrifeniadau. Ym 1713 ymddangosodd ei dreis-gân "Cato". Roedd ei llwyddiant yn anarferol, a chafodd ei darllen gydag awyddfryd a phleser drwy y wlad yn gyffredinol.

Daeth gyrfa lenyddol Addison ym mron i ben yn fuan ar ôl marwolaeth y Frenhines Ann, yn Awst 1714, gyda ei fod wedi cyrraedd 42 oed, ond bu fyw bum mlynedd wedi hynny. Ym 1715, dechreuodd gyhoeddi ei Freeholder, a oedd yn fath o Spectator gwleidyddol, ac a ysgrifennwyd yn gwbl ganddo'i hun. Cyhoeddwyd 55 rhifyn yn unig ohono. Yn y flwyddyn ddilynol, priododd Addison ag Iarlles waddolog Warwick, ond y mae lle i gasglu na chwanegodd hyn nemawr at ei ddedwyddwch. Ym 1717, penodwyd ef yn un o brif ysgrifenyddion y wladwriaeth, ond mae'n ymddangos fod y gwaith trwm a ddisgynodd arno mwn cysylltiad â'r swydd, ynghyd â'r caethder a'r diffyg anadl yr oedd yn ddarostyngedig iddynt o'r blaen, wedi bod yn foddion i wanhau ei iechyd, ac i brysuro dydd ei ymddatodiad. Gan hynny, ymhen 11 mis, fe ymddiswyddodd, a chaniatawyd iddo flwydd-dâl o £1,500. Defnyddiodd ei amser yn awr i gyfansoddi ei draethawd ar "The Evidences of the Christian Religion", ond ni bu fyw i'w gwblhau. Bu farw o ddiffyg anadl a'r dyfrglwyf yn Holland House, Kensington, yn 47 oed, a fe'i claddwyd yn Abaty Westminster, yng Nghornel y Beirdd.

Ystyrid Addison ar un adeg yn fardd Saesneg mawr, ac yn ddiweddarach yn bwysig am ei bryddestau Lladin. Bellach, mae ei enwogrwydd yn gorffwys yn bennaf ar ei draethodau yn The Spectator a chyfnodolion eraill. Caiff ei arddull ei ystyried yn gynllun o goethder a chywirdeb. Meddai Samuel Johnson, "Pwy bynnag sydd yn ewyllysio ymberffeithio mewn arddull Saesneg, gynefin ond nid anghoeth, brydferth ond nid rhodresgar, rhodded ei ddyddiau a'i nosweithiau i astudio cyfrolau Addison". Mewn gwirionedd, nid oes un o'r clasurwyr Saesneg a werthfawrogir yn fwy ac a ganmolir yn uwch nag efe. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohono gan Lucy Aikin ym 1843, a chyhoeddwyd casgliad o'i holl weithiau gan Baskerville yn Birmingham ym 1761. Cyhoeddwyd The Spectator o'r newydd ym 1871 gyda nodiadau gan yr Athro Henry Morley.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Parry a J. Ogwen Jones (gol.), Y Gwyddoniadur Cymreig cyf. 10 (Dinbych: Thomas Gee, 1879), t. 421.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.