Ieithoedd Italaidd
Mae'r ieithoedd Italaidd yn perthyn i'r teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae'n cwmpasu Lladin, a'r ieithoedd Romáwns sy'n tarddu o Ladin, a hefyd dwy iaith y Cynfyd, Osgeg ac Wmbreg.
Mae gan y gangen ddwy is-gangen:
- Sabeleg, sy'n cynnwys Osgeg a'r grŵp Wmbraidd, sy'n cynnwys Wmbreg a nifer o ieithoedd eraill â pherthynas agos at Wmbreg
- Lladino-Ffalisceg, sy'n cynnwys Ffalisceg, iaith farw a siaredid i'r gogledd o Rufain, Lladin a'r ieithoedd Romáwns.
Fel roedd y Rhufeinwyr yn ehangu'u dylanwad dros bobloedd eraill yr Eidal, daeth eu iaith i oruchafu dros yr ieithoedd Italaidd eraill tan iddi gymryd eu lle yn llwyr. Lladin yw'r unig iaith Italaidd a oroesodd. Daeth mor lwyddiannus nes iddi ledu dros y rhan fwyaf o dde Ewrop a datblygu i esgor ar grŵp newydd o ieithoedd, y grŵp Romáwns.
Mae rhai ieithyddion yn rhagdybio cysylltiad clòs rhwng yr ieithoedd Italaidd a'r ieithoedd Celtaidd ac yn awgrymu iddynt darddu o un famiaitih Italo-Celtaidd (y rhagdybiaeth Italo-Celtaidd), ond mae'r syniad yn aros yn ddadleuol.