Osgeg
Mae Osgeg yn iaith hynafol farw a sieredid gan y Samniaid yn ne'r Eidal hyd at yr ail ganrif C.C..
Gyda'r Wmbreg, mae'n perthyn i gangen Osgo-Wmbreg yr Ieithoedd Italaidd ond mae ei pherthynas ieithyddol â Lladin yn bwnc dadleuol.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd Osgeg yn enw a roddwyd gan y Rhufeiniaid ar dafodiaith yr Osgiaid, un o'r llwythi Samniaidd yn Campania, ac a ddaeth i gael ei ddefnyddio i olygu iaith y Samniaid yn gyffredinol.
Er i'r Samniaid dderbyn goruchafiaeth Rhufain yn y flwyddyn 290 C.C., roeddent yn parhau i ddefnyddio'r iaith Osgeg fel iaith swyddogol hyd at y Rhyfel Gymdeithasol yn 90-89 C.C. pan gollodd y Samniaid eu hannibyniaeth. Ymddengys fod Osgeg fel iaith lafar wedi goroesi hyd yr ail ganrif O.C.
Olion ac arysgrifau
[golygu | golygu cod]Ac eithrio enwau personol ac enwau lleoedd a ddyfynir gan awduron Lladin a Groeg, mae'r iaith yn adnabyddus o'r tua 200 arysgrif Osgeg sydd wedi goroesi. Er bod un testun yn weddol hir, tua 300 o eiriau, mae'r rhan fwyaf yn fyr iawn ac mewn canlyniad mae ein gwybodaeth o Osgeg yn gyfyng. Daw o gwmpas tri chwarter yr arysgrifau hyn o Campania ei hun. Maent wedi'u hysgrifennu mewn gwyddor frodorol seiliedig ar y Wyddor Roeg a'r wyddor Etrwseg. Mae'r ffaith fod iaith yr arysgrifau'n gyson a sefydlog yn awgrymu fod gan yr iaith lenyddiaeth safonol ar un adeg.
Rhai geiriau Osgeg
[golygu | golygu cod]- pon pan
- tout(am) cf. Cymraeg tylwyth, Hen Wyddeleg tuatha
- lig(ud) deddf, cf. Lladin legs
- aut ond
- mall(ud) maleisus
- allo arall / eraill
- fame(lo) teulu / cartref
- pud beth?, cf. Lladin quod
- kom cyf-, cf. Lladin cum-, con-
- nessimas nesaf, Hen Wyddeleg nessam
- trsto-, tristo - tyst
- pompe pump (efallai sylfaen y gair "Pompeii"?)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- C.D. Buck, A Grammar of Oscan and Umbrian (1928)
- Leppmann, Wolfgang, Pompeii in Fact and Fiction Elek Books, Llundain 1968
- Elcock, W.D., The Romance Languages Faber a Faber, Llundain 1960
- Edmonds, J.M., An Introduction to Comparative Philology for Classical Students Gwasg Prifysgol Caergrawnt 1906
- geirfa yn: Hudson-Williams,A Short Grammar of Old Persian Gwasg Prifysgol Cymru 1936, 1963
- geirfa yn: Thurneysen, R., A Grammar of Old Irish Dublin Institute for Advanced Studies, Dulyn 1980 ac ati.