Hagis
Math | pwdin sawrus, saig o gig, saig o offal |
---|---|
Gwlad | Yr Alban |
Enw brodorol | haggis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o bwdin sawrus sy'n cael ei gysylltu yn bennaf â'r Alban yw hagis. Mae'n cynnwys cynnwys syrth (calon, iau, ac ysgyfaint) dafad, ynghyd â nionyn, blawd ceirch, siwed, sbeisys, a halen, yn gymysg a stoc, ac yn draddodiadol wedi'i goginio yn stumog yr anifail.
Yn Lloegr y ceir y cofnod cynharaf o'r enw "hagws" neu "hagese", a hynny tua'r flwyddyn 1430, ond mae'r pryd yn cael ei ystyried o dras Albanaidd yn draddodiadol. Yno, mae'n cael ei alw'n y pryd cenedlaethol[1] o ganlyniad i'r gerdd a ysgrifennodd y bardd Robert Burns i gyfarch yr Hagis yn 1787. Mae hagis fel arfer yn cael ei fwyta gyda rwdan a thatws ("neeps and tatties"), wedi'u berwi a'u stwnsio ar wahan, ynghyd â diferyn o chwisgi, yn arbennig fel y prif gwrs mewn Swper Burns.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Food and Drink in Scotland – Scottish Cuisine". Scotland.org.