Gemau Olympaidd yr Haf 1928
Enghraifft o'r canlynol | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1928 |
Dechreuwyd | 28 Gorffennaf 1928 |
Daeth i ben | 12 Awst 1928 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1924 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1932 |
Lleoliad | Stadiwm Olympaidd, Amsterdam |
Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/amsterdam-1928 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1928 (Iseldireg: Olympische Zomerspelen 1928), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r IX Olympiad rhwng 28 Gorffennaf a 12 Awst yn ninas Amsterdam, Yr Iseldiroedd. Roedd Amsterdam wedi gwneud cais i gynnal Gemau Olympaidd 1920 a 1924 ond wedio colli allan i Antwerp, Gwlad Belg ym 1920 ac i Baris, Ffrainc ym 1924.
Y Gemau
[golygu | golygu cod]Cafwyd 2,883 o athletwyr - 2,606 o ddynion a 277 o ferched - o 46 o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn 14 o gampau gwahanol. [1] Cafwydd cystadlaethau athletau a gymnasteg i ferched am y tro cyntaf yn ystod y Gemau[2]. Caniatawyd i ferched gystadlu yn y 100 metr, 800 metr, naid uchel, disgen a'r 400 metr dros y clwydi ac oherwydd y diffyg cystadlaethau i ferched, gwrthododd merched athletwyr benywaidd o Ynysoedd Prydain a chystadlu.[3]
Cafywd Fflam Olympaidd ei gynnau am hyd y Gemau am y tro cyntaf; traddodiad sydd yn parhau hyd heddiw ac am y tro cyntaf dechreuodd yr orymdaith o wledydd gyda Gwlad Groeg a gyda'r wlad oedd yn cynnal y gemau, Yr Iseldiroedd, yn olaf yn yr orymdaith, traddodiad arall sydd yn parhau hyd heddiw.
Cafodd Yr Almaen wahoddiad i gystadlu yng Ngemau Olympaidd yr Haf am y tro cyntaf ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wrth cael ei ddewis yn nhîm Polo dŵr Prydain Fawr daeth y Cymro, Paolo Radmilovic, y person cyntaf i gynrychioli Prydain mewn pum Gemau Olympaidd yr Haf[4].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (PDF) The Ninth Olympiad. Amsterdam 1928. Official Report (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-04-08. https://web.archive.org/web/20080408184510/http://www.la84foundation.org/6oic/OfficialReports/1928/1928.pdf. Adalwyd 2022-01-30.
- ↑ "Timeline of Women in Sports: Gymnastics". faculty.elmira.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2014. Cyrchwyd 12 Chwefror 2014.
- ↑ Hargreaves, Jennifer (2007). O'Reilly, Jean; Cahn, Susan (gol.). Olympic Women. Women and Sports in the United States. Boston: Northeastern University Press. tt. 8. ISBN 978-1-55553-671-8.
- ↑ "Search for Olympian's four golds". BBC Wales. 2008-07-17.