Neidio i'r cynnwys

Esop

Oddi ar Wicipedia
Esop
Ganwydc. 620 CC Edit this on Wikidata
Mesembria (Pontus) Edit this on Wikidata
Bu farwc. 564 CC Edit this on Wikidata
Delphi Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwedleuwr, mythograffydd, athronydd, llenor Edit this on Wikidata
Blodeuodd6 g CC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amChwedlau Esop Edit this on Wikidata
Cerflun o'r oes Helenistaidd a honnir ei fod yn bortread o Esop.

Chwedleuwr a damhegwr sy'n enwog am ei ffablau oedd Esop[1] (Hen Roeg: Αἴσωπος, Aisōpos), sydd yn debyg iawn o fod yn gymeriad chwedlonol ei hun. Ers yr Henfyd cesglid nifer o straeon mewn sawl iaith a briodolir i'r hen Esop, gan ei ddyrchafu'n brif storïwr y traddodiad llafar Ewropeaidd. Noder chwedlau Esop gan ddynweddiant y cymeriadau: anifeiliaid ydynt gan amlaf sy'n gallu siarad, creu helynt a datrys problemau, a chloi'r ffabl gyda moeswers i'r gwrandäwr.

Er nad oes sicrwydd o gwbl ynghylch yr Esop hanesyddol, cofnodir bywgraffiad tradodiadol gan nifer o lenorion sy'n tarddu o'r gwaith hynafol Rhamant Esop. Sonir amdano gan Aristotlys, Herodotus, a Plutarch. Honnir taw caethwas hyll ond deallus oedd Esop, a enillodd ei ryddid a daeth yn gynghorwr i deyrnoedd a dinas-wladwriaethau, megis Cresws, Brenin Lydia. Credir iddo fyw yn y 6ed ganrif CC, ac awgrymir nifer o fannau geni iddo: Thracia, Phrygia, ynys Samos, neu Ethiopia. Honnir iddo farw yn Delphi yn y flwyddyn 564 CC, o bosib wedi ei daflu o glogwyn yn gosb am halogi'r deml neu ryw drosedd debyg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]