Castel del Monte, Puglia
Gwedd
![]() | |
Math | castell Hohenstaufen yn ne'r Eidal, military museum building, Italian national museum, historical park museum, Museum of the Italian Ministry of Culture ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Andria ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 540 m², 1,806 m² ![]() |
Cyfesurynnau | 41.084754°N 16.270935°E ![]() |
Cod post | 70031, 76123 ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig ![]() |
Perchnogaeth | Cyngor Gweinidogion yr Eidal ![]() |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, ased diwylliannol yr Eidal ![]() |
Sefydlwydwyd gan | Ffredrig II ![]() |
Manylion | |
Deunydd | marmor, calchfaen ![]() |
Castell yn ne-ddwyrain yr Eidal yw Castel del Monte ("Castell y Mynydd"), sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Saif ar fryn y tu allan i ddinas Andria yn rhanbarth Puglia.[1]
Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1240au gan Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Mae ei gynllun wythonglog yn anarferol iawn ac y mae haneswyr wedi dadlau ynghylch ei bwrpas. Nid oes ganddo ffos na phont godi ac roedd rhai yn ystyried na chafodd erioed ei fwriadu fel caer amddiffynnol; fodd bynnag, mae gwaith archeolegol wedi awgrymu ei fod wedi ei amgylchynu gan fur allanol yn wreiddiol. Yn y 18g ysbeiliwyd marblis mewnol y castell a'r dodrefn a oedd yn weddill.[2]
Mae delwedd y castell yn ymddangos ar y fersiwn Eidalaidd o'r darn arian 1 sent yr Ewro-floc.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y castell o'r tu blaen
-
Y castell o'r awyr
-
Y cynllun wythonglog
-
Y muriau mewnol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hubert, Houben. "Castel del Monte". Federiciana. Enciclopedia Italiana. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
- ↑ Tuulse, Armin (2002), Castles of the Western World, Dover Publications, pp. 60–61, ISBN 0-486-42332-8, https://archive.org/details/castlesofwestern0000tuul/page/60
- ↑ "Images of Euro Coins - 1 cent". Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.