Baner Norwy
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Baner Svalbard)
Baner o Groes Lychlynnaidd las wedi'i hamlinellu'n wyn ar faes coch yw baner Norwy. Tan 1814 defnyddiwyd y Dannebrog, oherwydd roedd Norwy wedi'i huno â Denmarc. Mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 17 Gorffennaf, 1821, pan oedd Norwy wedi'i huno â Sweden. Mae'r groes wen ar faes coch yn seiliedig ar faner Denmarc, tra bo glas yn cynrychioli cysylltiadau â Sweden. Ysbrydolwyd y lliwiau ymhellach gan faneri Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)