Neidio i'r cynnwys

Baner Transnistria

Oddi ar Wicipedia
Baner Transnistria
Fersiwn heb yr arwyddlun comiwnyddol yn y canton

Baner drilliw lorweddol o stribedi uwch ac is llydan coch a stribed canol tenau gwyrdd gyda morthwyl a chryman melyn ag amlinelliad melyn o seren uwch eu pen yn y canton yw baner Transnistria. Mae'n unfath â baner Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Moldofa. Cadwyd y faner hon ar ôl i Dransnistria ddatgan ei hannibyniaeth oddi ar Foldofa ar 2 Medi 1991, ac yn hwyrach cymerwyd symbol gomiwnyddol y morthwyl a'r cryman oddi ar y faner. Ailfabwysiadwyd dyluniad gwreiddiol y faner ar 3 Gorffennaf 2000.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]
  • Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Southwater, 2010).