Baner Fryslân
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad |
---|---|
Lliw/iau | glas, gwyn, coch |
Dechrau/Sefydlu | 1957 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Baner swyddogol talaith Fryslân (Friesland) yn yr Iseldiroedd[1] yw baner Fryslân (Iseldireg: Friseg vlag neu vlag van Friesland; Ffriseg: Fryske Flagge).
Mae'n cynnwys pedair streipen las wedi'u gwahanu gan dair streipen wen wedi'u trefnu'n groeslin, ac o fewn y streipiau gwyn saith pompeblêden (dail lili'r dŵr felen[2]) a all edrych fel calonnau, ond na ddylai, yn ôl y cyfarwyddiadau swyddogol, edrych fel calonnau”. Mae crysau chwaraewyr y clwb pêl-droed Sportclub Heerenveen a'r gerddorfa Blauhúster Dakkapel (nl) yn defnyddio'r faner hon fel dyluniad.
Symbolaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r saith Pompeblêden yn cyfeirio at wledydd morwrol Friesland, cyfres o diroedd canoloesol ar hyd yr arfordir o Alkmaar i'r Weser a unodd i amddiffyn eu hunain yn erbyn y Llychlynwyr.[3] Ni fu erioed yn union saith pennaeth gwahanol, ond mae'r nifer hwn o saith i'w cymryd yn yr ystyr “llawer”. Fodd bynnag, yn ôl rhai ffynonellau, roedd saith tiriogaeth Ffrisia: Gorllewin Friesland, Westergo, Eastergo, Hunsingo, Fivelingo, Emsingo a Jeverland.[2]
Defnyddir Pompeblêden mewn baneri cysylltiedig eraill, megis baneri Ommelanden, yn nhalaith gyfagos Groningen, ardal a oedd yn hanesyddol yn Ffrisia, ac mewn prosiect baner pan-Ffrisia a gynigiwyd gan brosiect baneri Fryslân a gyflwynwyd gan gefnogwr Grŵp Auwerk. Ceir hefyd sawl tref oddi fewn i'r Almaen sy'n arddel symbol y Pompeblêd, gan gynnwys dinas fawr Essen.[4] Credir mai Pompeblêd hefyd yw'r hyn a ddylunir fel calonnau bellach ar arfbais swyddogol Denmarc.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Disgrifir baner gyda sawl pompblêden yn Cân Gudrun, cerdd epig Uchel Almaeneg (Hochdeutsch) o'r 13g, ond mae'r motiff hwn yn dynodi dylanwad Llychlyn. Mae tua mil dau gant o arfbeisiau Llychlyn yn dangos olion niferus o lili'r dŵr a chalonnau, a gysylltir yn aml â llewod.
Mae casgliad herodrol o'r 15g yn cyflwyno dwy arfbais sy'n dod o drydedd un hŷn: arfbais yn dangos llew â saith pompeblêden a drawsnewidiwyd dros amser yn biledau, a'r llall yn dangos arfbais gyda'r saith pompeblêden, a gynrychiolir ar hyn o bryd ar y bandiau.
Cymeradwywyd y cynllun presennol yn swyddogol ym 1897 ac fe'i defnyddiwyd gyntaf gan lywodraeth y dalaith ym 1927.[3]
Poblogrwydd cyfredol
[golygu | golygu cod]Mae crysau'r clwb pêl-droed SC Heerenveen a'r Blauhúster Dakkapel wedi'u modelu ar ôl y faner hon. Gellir ei gweld yn cyhwfan ar hyd talaith Ffryslân ac ar nwyddau nodweddiadol a chwmnïau masnachol rhyngwladol.
-
Gellir gweld y faner yn y cefndir yn râs sgefrio enwog yr Elfstedentocht a gynhelir ar hyd camlesi Ffryslân pan fyddant wedi rhewi
-
Sylvia Smit, yng nghrys pêl-droed SC Herrenven
-
Cefnogwyr SC Heerenveen yng nghrys y faner trawiadol
-
Mwgwd wyneb adeg [[Covid-19) (2022)
-
Baner Ffrisia yn hybu McFlurry, McDonalds, Heerenveen (2018)
-
Blwch bara gyda'r faner (2020)
-
Sannau gyda'r faner
-
Baner fryslân ar Promenâd Aberystwyth
-
Mae baner Fryslân yn un o faneri Promenâd Aberystwyth
Baneri Ffrisieg
[golygu | golygu cod]-
Baner yr Ommelanden
-
Baner pan-Ffrisia (answyddogol)
-
Baner y "Interfriese Raad" (2006)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Baner Fryslân ar wefan Flags of the World
- What is this Symbol? - The History of the Frisian Pompeblêd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Friese vlag (Baner Fryslân)" (yn Iseldireg). 3 Rhagfyr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-03. Cyrchwyd 2022-06-10.
- ↑ 2.0 2.1 de Vries, Truus (3 Rhagfyr 2020). "Het mysterie van het Friese pompeblêd (uit Friesland Post, maart 2016) (gearchiveerd) / Dirgelwch deilen lili ddŵr Ffriseg (o'r papur newyddFriesland Post, Mawrth 2016)" (PDF) (yn Iseldireg). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-10-27. Cyrchwyd 2022-06-10.
- ↑ 3.0 3.1 "Friese vlag, logo, wapen en volkslied" (yn Iseldireg). Frise (province). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-28. Cyrchwyd 11 Awst 2012..
- ↑ 4.0 4.1 "What is this Symbol? - The History of the Frisian Pompeblêd". Sianel Youtube 'History with Hilbert'. 13 Tachwedd 2017.