Icarus
Ym mytholeg Roeg, mab y dyfeisydd chwedlonol Daedalus oedd Icarus. Mae'n enwog am geisio hedfan am y tro cyntaf erioed, gyda'i dad, a syrthio i'r môr a marw.
Yn ôl traddodiad, roedd Daedalus yn genfigenus o ddoniau ei ddisgybl, nai mab ei chwaer Perdix. Un diwrnod, gwylltiodd a thaflodd y llanc o ben yr Acropolis yn Athen a bu rhaid iddo ffoi i ynys Creta. Ar yr ynys, cafodd nawdd gan y brenin Minos a'i wraig Pasiphaë. Yn ôl y chwedl, lluniodd fuwch bren i'r frenhines er mwyn iddi gael cyfathrach gyda tharw wyn a ganwyd y Minotaur o'r cyplysiad hwnnw. Gorchmynodd Minos iddo adeiladau labrinth ger Cnossos i gadw'r Minotaur yno. Diolch i gyngor Daedalus, llwyddodd Ariadne ferch Pasiphaë i gynorthwyo Theseus i ladd y Minotaur. Digiodd Minos wrtho a chafodd ei garcharu gyda'i fab Icarus yn y labrinth.
Er mwyn dianc o afael Minos, dyfeisiodd Daedalus ddau bâr o adenydd, un iddo ef a'r llall i Icarus, a fyddai'n eu galluogi i hedfan yn ôl i Roeg. Rhybuddiodd Daedalus i'w fab beidio a hedfan yn rhy uchel rhag ofn byddai gwres yr haul yn toddi'r cwyr yn yr adenydd. Ond hedodd Icarus yn rhy agos at yr haul, a doddodd y cwyr oedd yn dal yr adenydd wrth ei gilydd, ac fe syrthiodd i'w farwolaeth yn y môr, a elwid yn Fôr Icarus ar ei ôl. Golchwyd ei gorff i'r lan ar ynys lle y'i claddwyd gan Heracles; enwyd yr ynys yn Icaria am hynny.
|
Ffynhonnell
golygu- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).