Ysgol Rhuthun
![]() | |
Enghraifft o: | ysgol annibynnol, day school, ysgol breswyl, ysgol uwchradd ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 13 g ![]() |
Lleoliad | Adeilad Ysgol Rhuthun, Rhuthun ![]() |
![]() | |
Gweithwyr | 91, 99, 78, 68, 180 ![]() |
Rhanbarth | Sir Ddinbych ![]() |
Gwefan | http://www.ruthinschool.co.uk ![]() |
![]() |

Mae Ysgol Rhuthun yn ysgol breifat yn nhref Rhuthun, Sir Ddinbych. Mae'r adeilad presennol dros gant oed, ond mae'r ysgol yn un o'r hynaf yng ngwledydd Prydain: dros 700 o flynyddoedd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ni wyddom yr union ddyddiad y sefydlwyd yr ysgol, rhywdro ar ôl 1282. Y dyddiad a dderbynir yn fwyaf cyffredin ydy 1284, a hynny efo arian Reginald de Grey.[1] Sonir yn Taxatio 1291 fod yma goleg llewyrchus wed'i gysylltu â'r eglwys.
Gabriel Goodman
[golygu | golygu cod]Yn 1574, cododd Gabriel Goodman, Deon Westminster, adeilad deulawr o galchfaen fel adeilad pwrpasol yng nghysgod Eglwys Sant Pedr. Yn 1595 neu 1561, o dan gyfarwyddyd Goodman, cyfeiriwyd arian y Degwm o blwyf Llanelidan ac at ddefnydd yr ysgol.
Addysg
[golygu | golygu cod]
Cafwyd adroddiad yn ddiweddar gan Estyn, i safonau'r addysg yn yr ysgol; ymateb y pennaeth, Mr. Belfield, oedd: "The Independent Schools' Inspectorate report was very favourable and commented most positively on not only the academic achievements, but also the demeanour and positive attitude of the pupils." [2]
Pobl addysgwyd yn Ysgol Rhuthun
[golygu | golygu cod]- John Williams (1582 – 1650) Archesgob Efrog.
- John Wynne (1665/7 – 1743) Esgob Llanelwy ac Esgob Caerfaddon.
- Evan Lloyd (1735 – 1776) offeiriad Eglwys Loegr a bardd Cymreig yn yr iaith Saesneg
- Rowland Williams (1779 – 1854) Clerigwr
- Edward Pugh (1761 – 1813) Arlunydd, awdur Cambria Depicta
- Gwilym Owen (1880 – 1940) Ffisegydd
- Julian Lennon (geni 1963) Cerddor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ruthin School: The First Seven Centuries", awdur: Keith Kenyon-Thompson]
- ↑ "www.ruthinschool website; accessed 11/06/2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-24. Cyrchwyd 2014-07-12.