Rhuthun
Nantclwyd y Dre | |
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 5,698 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Henllan |
Cyfesurynnau | 53.1144°N 3.3106°W |
Cod SYG | W04000174 |
Cod OS | SJ127854 |
Cod post | LL15 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Darren Millar (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Becky Gittins (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Rhuthun ( ynganiad ). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi. Roedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0).
Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy "Ysgol y Capie Cochion".
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Becky Gittins (Llafur).[1][2]
Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19g. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n "Dog Lane" (neu "Stryd Dogfael") ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ôl y chwedl.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dafydd ap Gruffudd (1238-83) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.
Ar 16 Medi 1400 llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presennol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.
Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:
- Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
- A'i wedd yn ddigon trist...
Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18g roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' [3]. Capel hynaf y dref yw Pendref.
Nantclwyd y Dre
[golygu | golygu cod]- Prif: Nantclwyd y Dre
Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[4][5]
Canolfan Grefft
[golygu | golygu cod]Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaerniaeth.
Pobol sy'n gysylltiedig â Rhuthun
[golygu | golygu cod]- Edward Pugh, ffotograffydd
- Dave Brailsford
- Edward Jones (Bathafarn)
- Emrys ap Iwan
- Neil Taylor (pêl-droediwr)
- Rhys Ifans
- John Langford
- Rhys Meirion
- Robat Arwyn
- Tom Pryce
- William Lloyd (mynyddwr)
- Joe Woolford
Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Codau QRpedia yn Rhuthun
[golygu | golygu cod]Mae'r codau canlynol yn cysylltu'n uniongyrchol ag erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg:
Yn ychwanegol at y rhain mae 6 arall sy'n cysylltu gyda'r erthygl hon.
Cysylltiadau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Rhuthun wedi'i gefeillio â:
- Briec, Llydaw
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Sgwâr y dref
-
Capel y Tabernacl
-
Cae Ddôl, Rhuthun
-
Nantclwyd y Dre
-
Siop Nain: y fan lle cyhoeddwyd yr Anthem Genedlaethol am y tro cyntaf
-
Crown House
-
Banc Barclays
-
Mynedfa'r Castell
-
Castell Rhuthun
-
Castell Rhuthun
-
Rhan o'r castell
-
Llwybr troed yng Nghastell Rhuthun
-
Cerrig yr Orsedd o fewn waliau'r castell
-
Eglwys St Pedr
-
Ffenest liw yn Eglwys St Pedr, Rhuthun
-
Gorymdaith Owain Glyn Dŵr drwy'r dref ar Ddiwrnod Glyn Dŵr
-
Gwesty'r Angor
-
Stryd y Ffynnon, gyda Gwesty'r Angor yn y pen draw
-
Hen Westy Wynnstey a Phlas Coch ar y chwith
-
Plas Coch. Clwb Ceidwadol, bellach
-
Gwesty'r Angor o gyfeiriad Ffordd Llanfair
-
Adeilad Neylor Leyland
-
Yr hen garchar
-
"Llygaid y Dre", sef ffenestri'r Myddleton; Rhuthun
-
Cloc Sgwar St Pedr, ongl wahanol
-
Yr ysgrifen ar gloc y sgwar
-
Tap dŵr ar gloc y sgwar
-
Manylun o ran o'r cloc
-
Elusendai yng nghefn yr eglwys
-
Eglwys San Pedr
-
Rhan o wal yr eglwys
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Croes Sant Meugan: croes Geltaidd bron i dair metr o uchder.
- Crug Cae Gwynach
- Capel Pendref, Rhuthun
- Eglwys Sant Meugan, Llanrhudd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwyddoniadur Cymru
- ↑ 'Nantclwyd y Dre' gan Christopher J. Williams a Dr. Charles Kightly; Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, Haf 2007
- ↑ Gweler adroddiad Richard Suggett (RCAHMW): the earliest dated timber-framed town house in Wales.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan gefeillio Rhuthun - Brieg Archifwyd 2008-04-05 yn y Peiriant Wayback
- Blog Rhuthun (Saesneg)
Dinas
Llanelwy
Trefi
Corwen · Dinbych · Llangollen · Prestatyn · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl
Pentrefi
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryneglwys · Bryn Saith Marchog · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion