Wicipedia:Enwi erthyglau
Dyma dudalen sy'n sôn am ganllaw a ddefnyddir ar y Wicipedia Cymraeg. Dylai pob defnyddiwr ddilyn y canllaw. |
Yn gryno: Dylai'r enw sydd ar erthyglau fod yn adnabyddadwy i ddarllenwyr, yn ddiamwys, ac yn gyson yn ôl ffynonellau Cymraeg (neu Saesneg lle bo angen). |
Mae'r dudalen hon yn disgrifio polisi dewis teitl erthygl ar y Wicipedia Cymraeg. Y pennawd mawr, praff ar ben testun yr erthygl yw'r teitl erthygl. Fel arfer, atseinir y teitl erthygl yn y llinell gyntaf o destun yr erthygl ac yn URL y dudalen ei hunan. Ynghyd â'r polisi yma, dylid cyfeirio at y polisïau a ganlyn hefyd, yn enwedig y tri phrif bolisi yma: Gwiriadrwydd, Dim ymchwil gwreiddiol, a Safbwynt niwtral.
Mae'r teitl erthygl yn ei wahaniaethu o erthyglau eraill. Nid oes yn rhaid iddo fod yr un teitl â'r pwnc; mae llawer o deitlau erthyglau yn disgrifio'r pwnc ei hunan. Oherwydd arddull dylunio Wicipedia, nid oes modd cael dwy erthygl o'r un enw. Mae hyn oherwydd daw URL y dudalen o'r teitl erthygl. Fel arfer, enwir erthyglau yn ôl y pwnc, sy'n dod o ffynonellau dibynadwy Cymraeg neu Saesneg (lle bo angen); lle bo llawer o ddewis, penderfynir ar y teitl erthygl drwy ystyried y pum egwyddor: bydd y teitl erthygl gorau yn cyffelybu teitlau tebyg o erthyglau tebyg: adnabyddwch y pwnc; byddwch yn gryno; yn niwtral, ac yn adnabyddadwy.
I gael gwybod am newid teitl erthygl, gweler Wicipedia:Ail enwi neu symud tudalen.
Pennu teitl erthygl
[golygu cod]Drwy bennu teitl erthygl, mae'n rhaid defnyddio ffynonellau Cymraeg (neu Saesneg lle bo angen) dibynadwy. Os oes dewis o fwy nag un teitl, mae'n rhaid defnyddio consensws. Wrth ddod i gonsensws, mae'n rhaid ystyried y pwyntiau canlynol:
- Adnabyddadrwydd (recognisability) – A yw'r teitl dan sylw yn enw neu ddisgrifiad adnabyddadwy o'r pwnc?
- Niwtralrwydd (naturalness) – Pa fath o deitlau fydd darllenwyr yn chwilio amdanynt er mwyn dod o hyd i erthygl? Pa deitlau fydd golygyddion yn eu defnyddio i gysylltu ag, ac o, erthyglau eraill? Fel arfer, fydd y teitl yn enw neu ddisgrifiad Cymraeg safonol.
- Manwl gywirdeb (precision) — A yw'r teitl dan sylw yn ddigon manwl gywir? Fel arfer, mae teitlau a dderbyniwyd drwy gonsensws yn dermau neu enwau manwl gywir er mwyn enwi erthyglau yn ddiamwys.
- Byrder (conciseness) — A yw'r teitl yn fyrder neu'n rhy hir?
- Cysondeb (consistency) — A yw'r teitl dan sylw yn dilyn yr un patrwm ag erthyglau tebyg eraill? Eto, wrth bennu teitlau ar y Wicipedia Cymraeg, defnyddir Cymraeg safonol, diweddar gan amlaf.
I'r mwyafrif o bynciau, bydd teitl amlwg, syml a fydd yn ateb y cwestiynau uchod. Os felly, defnyddiwch e. Os nad oes teitl amlwg, syml, mi fydd yn rhaid rhestru'r pwyntiau uchod yn ôl pwysigrwydd, ac enwi erthyglau gyda'r meini prawf hynny. Gweithredir hyn drwy gonsensws a thrafod.
Dylid creu tudalen/dolen ailgyfeirio i erthyglau sy'n debyg i'w gilydd (megis Cilycoed (<dyma'r dudalen ailgyfeirio) a Cil-y-coed (<dyma'r enw ar yr erthygl)). Os yw'r enw yn un cyffredin iawn, dylid creu tudalen gwahaniaethau.