Undodiaeth
Athrawiaeth Gristnogol Brotestannaidd yw Undodiaeth neu Sosiniaeth: gelwir y rhai sy'n ei harddel yn Undodiaid. Ceir sawl enwad neu eglwys Undodaidd, yn bennaf yng ngwledydd Prydain a'r Unol Daleithiau, ond roedd llawer o'r Undodiaid cynnar heb berthyn i enwad Undodaidd ond yn hytrach yn arddel y ddysgeidiaeth, neu rannau ohoni. Gelwir Undodiaeth yn Sosiniaeth weithiau am fod y diwinydd Sosin (Socinus, 1525-1562) wedi gosod sylfeini Undodiaeth.
Nid yw'r Undodiaid yn credu yn y Drindod sanctaidd sef y Tad, Y Mab a'r Ysbryd Glân (athrawiaeth a geir yn Ariaeth hefyd). Yn hytrach credant mai dyn da oedd Iesu Grist, gan wrthod credu yn ei dduwdod. Credant yn ogystal nad oes pechod gwreiddiol ac mae rheswm dyn yn unig sydd i esbonio'r Beibl.
Mae credoau ynghylch Crist wedi newid o amser John Biddle, at amser Joseph Priestley.
Cymru
[golygu | golygu cod]Yng Nghymru, roedd yr Undodiaid yn gryf yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Llandysul yn ardal Dyffryn Teifi yng Ngheredigion ac o ganlyniad fe alwyd yr ardal yn 'Sbotyn Du'. Er bychaned eu nifer, cawsant ddylanwad sylweddol ar wleidyddiaeth a diwylliant y wlad ar ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19g.
Mae Christadelphianiaid heddiw dal i ddilyn syniadau o Socinus ynglŷn â Christ.