Undeb Amaethwyr Cymru
Enghraifft o'r canlynol | employers' organization, undeb llafur |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1955 |
Gwladwriaeth | Cymru |
Gwefan | https://www.fuw.org.uk/index.php/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn undeb yn cynrychioli buddianau ffermwyr ac yn ddiogelu a hyrwyddo buddiannau’r rheiny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yng Nghaerfyrddin yn 1955.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd UAC ym 1955 oherwydd pryderon y byddai buddiannau ffermwyr Cymru bob amser yn dod yn ail i'r rhai oedd yn ffermio mewn ardaloedd âr mwy ffrwythlon yn Lloegr.
Roedd nifer o ddigwyddiadau wedi cyfrannau at y teimlad hwn, gan gynnwys cost pencadlys newydd yr NFU yn Knightsbridge[1] ond roedd cynllun i goedwigo ardal mawr yn Sir Gaerfyrddin, gan Lywodraeth y DU oedd wedi achosi i gadeirydd yr NFU yn Sir Gaerfyrddin gyhoeddi i aelodau mewn cyfarfod ar 8 Rhagfyr 1955 ei fod yn ymddiswyddo. Dywedodd Ivor T Davies ei fod yn teimlo bod polisiau’r NFU yn groes i fuddiannau ffermwyr Cymru. Siaradodd Mr Davies am sefydlu undeb amaethwyr newydd i Gymru a cherddodd llawer o’r aelodau allan, ond arhosodd 12 ar ôl. Penderfynnwyd y 12 i ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru ac i ethol Ivor T Davies yn gadeirydd a D. T Davies yn is-gadeirydd[2].
Daeth J. B. Evans yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb[2], ac yn dilyn cyfarfod yn Aberystwyth, daeth John Morris yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a swyddog cyfreithiol yr undeb. Agorodd Morris swyddfa yng Nghaernarfon er mwyn recriwtio aelodau yn Sir Gaernarfon a Sir Fon ac erbyn iddo adael yr undeb yn 1957, roedd swyddfeydd hefyd yn Nolgellau, Llangefni ac Aberystwyth[1]. Roedd yr undeb yn weithgar yn yr ymdrech i atal y cynllun i foddi Capel Celyn[1].
Erbyn 1959 roedd yr Undeb yn fudiad sylweddol “The FUW is a force to be reckoned with... Its roots go down into deep soil, invigorated as it may be by past frustrations and controversies , but fed principally from the conviction that the Welsh voice can do more for Welsh agriculture solo than in chorus” (Financial Times)[2]
Deg diwrnod cyn trosglwyddo cyfrifoldeb am amaeth yn llawn i’r Swyddfa Gymreig yn 1978, cyhoeddodd Fred Peart, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod Undeb Amaethwyr Cymru i siarad ar ran ffermwyr Cymru. Roedd hyn yn foment tyngedfennol i’r Undeb[2]. Ysgrifennodd Gwladol Cymru ar y pryd oedd John Morris, oedd wedi gweithio i’r Undeb yn ei
Gwasanaethau
[golygu | golygu cod]Mae UAC yn cynnig cyngor arbenigol, gostyngiadau a chynigion i aelodau, cyngor ar y datblygiadau polisi diweddaraf, rhwydwaith o swyddfeydd lleol, lobïo llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, a rhoi llais i ffermwyr Cymru[3].
Strwythur
[golygu | golygu cod]Tim Llywyddol
[golygu | golygu cod]Mae aelodau UAC yn ethol Tîm Polisi Llywyddol ar lefel gendlaethol sy’n siarad ar ran ffermwyr Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cynrychioli’r Undeb mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliad a chyfarfodydd canghennau leol.
Canghennau
[golygu | golygu cod]Mae 12 cangen sirol sy’n ethol pwyllgor y sir gan gynnwys Llywydd a Chadeirydd ac mae swyddfa ar gyfer pob cangen sir. Lleolir y swyddfeydd lleol yn:
- Llangefni (Sir Fon)
- Caernarfon (Sir Gaernarfon)
- Rhuthun (Siroedd Dinbych a Fflint)
- Dolgellau (Sir Feinrionydd)
- Y Drenewydd (Maldwyn)
- Llanelwedd (Brycheiniog a Maesyfed)
- Llanbedr Pont Steffan (Ceredigion)
- Hwlffordd (Sir Benfro)
- Caerfyrddin (Sir Gaerfyrddin)
- Y Fenni (Gwent)
- Y Bont Faen (Sir Forgannwg)[3]
Pwyllgorau Sector
[golygu | golygu cod]Mae 11 pwyllgor sector, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ffermwyr a etholwyd yn ddemocrataidd o 12 cangen sir yr Undeb ar gyfer:
- Iechyd a lles anifeiliad
- Tir Comin
- Addysg a hyfforddiant
- Arallgyfeirio
- Ffermio tir uchel a thir dan anfantais
- Defnydd tir a chysylltiadau seneddol
- Marchnadoedd, gwlan a da byw
- Llaeth a chynnyrch llaeth
- Tenantiaid
- Llais ifanc
Mae aelodau pwyllgorau sector, swyddogion y siroedd, swyddogion a staff yr undeb yn cwrdd yn y Brif Gyngor pob dwy fis, sef prif corf etholedig yr Undeb.
Lleolir pencadlys yr undeb yn Aberystwyth, Ceredigion[3].
Swyddogion
[golygu | golygu cod]Swyddogion presennol yr UAC yn 2020 yw:
- Glyn Roberts – Llywydd
- Ian Rickman, Dirprwy Lywydd FUW
- Eifion Huws, Is lywydd Gogledd Cymru
- Brian Bowen, Is lywydd Canolbarth Cymru
- Dai Miles, Is lywydd De Cymru[3]
Cyn Lywyddion
[golygu | golygu cod]- 1955-1958 Ivor T Davies
- 1958-1961 D T Lewis
- 1961-1966 Glyngwyn Roberts
- 1966-1984 T. Myrddin Evans
- 1984-1991 H. R. M. Hughes
- 1991-2003 Bob Parry
- 2003-2011 Gareth Vaughan
- 2011–2015 Emyr Jones
- 2015- Glyn Roberts[2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Morris, John, 1931 November 5- (2011). Fifty years in politics and the law. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2418-9. OCLC 711051008.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jones, Handel. (1994). Teulu'r tir : hanes Undeb Amaethwyr Cymru 1955-1992. Vittle, Arwel. Talybont, Dyfed: Y Lolfa. ISBN 0-86243-338-X. OCLC 32013747.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Undeb Amaethwyr Cymru". Farmers Union of Wales. Cyrchwyd 2020-05-15.