Truru
Math | dinas, tref sirol |
---|---|
Poblogaeth | 21,555 |
Gefeilldref/i | Boppard, Montroulez |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Lloegr Cernyw |
Arwynebedd | 6.21 km² |
Gerllaw | Afon Hyldreth, Afon Alen |
Cyfesurynnau | 50.26°N 5.051°W |
Cod SYG | E04013097 |
Cod OS | SW825448 |
Cod post | TR1, TR2, TR3, TR4 |
Prifddinas, plwyf sifil a chanolfan weinyddol Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Truro[1] (Cernyweg: Truru[2] neu Tryverow). Truro yw'r ddinas fwyaf deheuol yn y Deyrnas Unedig, wedi ei lleoli fymryn yn llai na 232 filltir i'r de-orllewin o Lundain (Charing Cross).
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 18,766.[3]
Mae'r ddinas yn enwog am ei heglwys gadeiriol, y dechreuwyd ei hadeiladu ym 1879, ac a gwblhawyd ym 1910. Hefyd, mae hi'n lleoliad i Amgueddfa Frenhinol Cernyw (Royal Cornwall Museum), Llysoedd Cyfiawnder Cernyw a neuadd sir newydd Cyngor Sir Cernyw. Yn y ddinas mae canolfan galwadau band eang Grŵp BT.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r gwedillion yn Carvossa yn dangos bod Truru yn gymuned ers Oes yr Haearn. Roedd castell Normanaidd ar un o'r bryniau lle mae adeilad y Llysoedd Cyfiawnder heddiw.
Cododd Truru i amlygrwydd fel tref farchnad a phorth yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed. Sut bynnag, mae rôl Truro wedi newid i fod yn brifddinas ddiwylliannol a masnachol i Gernyw gyda dirywiad y diwydiannau pysgota a mwyngloddio tun neu alcam. Mae adeiladau presennol Truro yn dyddio yn bennaf i'r oes Sioraidd neu wedyn, canlyniad ei rôl fel tref stannary pan oedd y diwydiant mwyngloddio yn ei anterth yng ngorllewin Cernyw.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Lleolir Truru yng nghanol Cernyw ar gydlifiad afonydd Kenwyn ac Allen. Credir taw 'tair afon' yw ystyr enw Truru, enw sydd yn cyfeirio at Kenwyn, Allen a nant Glasteinan. Mae Truru wedi dioddef difrod gan lifogydd yn y gorffennol, yn enwedig ym 1988, pryd gwelwyd dau 100-mlynedd dilyw. Cyfododd y problemau hyn oherwydd i lawer o law chwyddo'r afonydd a llanw gwanwyn yn afon Fal. Yn fwy diweddar, cafodd amddiffynfeydd eu hadeiladu, gan gynnwys cronfa frys a gwahanfur llanw, i atal problemau yn y dyfodol.
Addysg
[golygu | golygu cod]Sefydliadau addysgol sydd yn Truru:
Ysgol Truro — ysgol fonedd a sefydlwyd ym 1880.
Ysgol Gyfun Truro — ysgol fonedd ar gyfer merched, tair i ddeunaw oed.
Ysgol Penair — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sydd rhwng un ar ddeg oed ac un ar bymtheg oed.
Ysgol Richard Lander — ysgol y wladwriaeth, gydaddysgol, ar gyfer plant sydd rhwng un ar ddeg oed ac un ar bymtheg oed.
Coleg Truro — coleg addysg bellach ac addysg uwch a agorwyd ym 1993.
Rheilffyrdd
[golygu | golygu cod]Agorwyd terfynfa yn Highertown y 5 Awst 1852 gan Reilffordd Gorllewin Gernyw, lle rhedai trenau i Redruth a Penzance. Estynnwyd y lein i lawr i'r afon yn Newham 16 Ebrill 1855. Daeth Rheilffyrdd Cernyw â lein o Plymouth i orsaf newydd y dref yn Carvedras y 4 Mai 1859, yn croesi uwchben y strydoedd ar ddwy draphont: pont Truro (tros ganol y dref) a phont Carvedras. Wedyn, dargyfeiriodd Rheilffordd Gorllewin Cernyw y rhan fwyaf o'u trenau i deithwyr i'r orsaf newydd, gan adael Newham yn bennaf fel gorsaf lwyth nes ei chau ar 6 Tachwedd 1971. Llwybr beic yw'r ffordd o Highertown i Newham heddiw, yn dilyn ffordd trwy gefn gwlad o gwmpas ochr ddwyreiniol y ddinas. Ehangodd Rheilffyrdd Cernyw y lein i Falmouth ar 24 Awst 1863.
Sefydliadau
[golygu | golygu cod]Lleolir Sefydliad Brenhinol Cernyw fel rhan o Amgueddfa Cernyw yn y ddinas.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 19 Mawrth 2021
- ↑ Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 7 Mehefin 2019
- ↑ City Population; adalwyd 19 Mawrth 2021
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Cyngor Dinas Truru Archifwyd 2017-09-03 yn y Peiriant Wayback
- BBC Cernyw - Camera Gwefan Truru
Enwau Cernyweg
Dinas
Truru
Trefi
Aberfal (Aberfala) ·
Bosvena ·
Essa ·
Fowydh ·
Hellys ·
Heyl ·
Kammbronn ·
Kelliwik ·
Lanndreth ·
Lannstefan ·
Lannust ·
Lannwedhenek ·
Lyskerrys ·
Logh ·
Lostwydhyel ·
Lulynn ·
Marghasyow ·
Nansledan ·
Pennsans ·
Penntorr ·
Penrynn ·
Ponswad ·
Porth Ia ·
Porthbud ·
Porthleven ·
Reskammel ·
Resrudh ·
S. Austel ·
S. Colom Veur ·
Strasnedh ·
Tewynblustri
Enwau Saesneg
Dinas
Truro
Trefi
Bodmin ·
Bude ·
Callington ·
Camborne ·
Camelford ·
Falmouth ·
Fowey ·
Hayle ·
Helston ·
Launceston ·
Liskeard ·
Looe ·
Lostwithiel ·
Marazion ·
Nansledan ·
Newlyn ·
Newquay ·
Padstow ·
Penryn ·
Penzance ·
Porthleven ·
Redruth ·
St Austell ·
St Blazey ·
St Columb Major ·
St Ives ·
St Just in Penwith ·
Saltash ·
Stratton ·
Torpoint ·
Wadebridge
|