The Star-Spangled Banner
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol, anthem genedlaethol |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1814 |
Dechrau/Sefydlu | 1814 |
Prif bwnc | Star-Spangled Banner (baner), Brwydr Baltimore |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfansoddwr | John Stafford Smith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Anthem yr Unol Daleithiau America ers 1931 yw "The Star-Spangled Banner".
Daw'r geiriau o'r gerdd "Defence of Fort M'Henry" gan Francis Scott Key (1779–1843), gyfreithiwr a bardd amatur. Gwelodd Key Fort McHenry ger Baltimore, Maryland yn cael ei bombardio gan lynges Prydain ar 13–14 Medi 1814 yn ystod Rhyfel 1812. Fe'i hysbrydolwyd i ysgrifenni ei gerdd wrth weld baner yr Unol Daleithiau, â 15 seren a 15 streipen ar y pryd, yn dal i hedfan dros y gaer ar doriad dydd ar ôl y bombardiad. Cyhoeddwyd y gerdd o fewn wythnos gyda'r awgrym y dylid ei chanu i'r dôn boblogaidd "To Anacreon in Heaven", a elwir hefyd yn "The Anacreontic Song". Roedd y dôn hon, i eiriau gwahanol yn canmol gwin, menywod a chân, wedi bod yn gân swyddogol yr Anacreontic Society, clwb boneddigion o Lundain sy'n dyddio o'r 18g. John Stafford Smith (1750–1836) oedd ei chyfansoddwr.