Teyrnas Hijaz
Gwedd
Math | gwlad ar un adeg, teyrnas |
---|---|
Prifddinas | Mecca |
Poblogaeth | 8,500,000 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Tyrceg Otomanaidd |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 21.42°N 39.83°E |
Arian | Hejaz Saudi riyal |
Gwladwriaeth yn ardal yr Hijaz ar Orynys Arabia oedd Teyrnas Hijaz a reolwyd gan frenhinllin yr Hasimiaid. Datganodd y Sharif Hussein bin Ali ei hunan yn Frenin Teyrnas Hijaz ym 1916 yn ystod y Gwrthryfel Arabaidd yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid. Cafodd yr Hijaz ei choncro ym 1925 gan Ibn Saud, Swltan Najd, ac unodd Deyrnas Hijaz a Swltaniaeth Najd gan ffurfio Teyrnas Najd ac Hijaz, a ail-enwyd yn Sawdi Arabia ym 1932.
Brenhinoedd Hijaz
[golygu | golygu cod]- Husain ibn Ali (10 Mehefin 1916 – 3 Hydref 1924)
- Ali bin Hussein (3 Hydref 1924 – 19 Rhagfyr 1925)