Neidio i'r cynnwys

Tan-Tan

Oddi ar Wicipedia
Tan-Tan
Mathdinas, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth73,209, 45,821, 60,698, 76,134 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Tan-Tan Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Arwynebedd25.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr51 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.43°N 11.1°W Edit this on Wikidata
Map

Dinas yn ne-orllewin Moroco yw Tan-Tan (hefyd: Tan Tan) (Arabeg: طانطان‎). Fe'i lleolir yn rhanbarth Oued Ed-Dahab-Lagouira tua 330 km i'r de o Agadir. Mae tua 71,000 o bobl yn byw yno.

Mae'n adnabyddus am y Moussem de Tan-Tan, gŵyl draddodiadol flynyddol sy'n denu tua 30 o lwythau lleol o'r Sahara. Cafodd y moussem ei dathlu ym Medi 2004 am y tro cyntaf ers 30 mlynedd ac mae UNESCO yn ei chydnabod fel rhan bwysig o ddiwylliant y Maghreb.

Gorwedd Tan-Tan ger y ffin â Gorllewin Sahara, tiriogaeth ddadleuol dan reolaeth Moroco. Hyd 1958 bu'n rhan o'r Sahara Sbaenaidd (Gorllewin Sahara) ond aeth yn rhan o Foroco pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.

Tua 25 km i'r gorllewin o Tan-Tan ar lan y Cefnfor Iwerydd mae tref Tan-Tan Plage (El Ouatia neu Elwatya), sef 'Traeth Tan-Tan' wedi datblygu, lle ceir porthladd pysgota, ffatrioedd prosesu pysgod a thraeth mawr. Mae'r ardal ger y traeth yn cael ei datblygu ar gyfer twristiaeth, e.e. canolfannau Msab Oued Draa a Oued Chbayka.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato