Neidio i'r cynnwys

Po’owli

Oddi ar Wicipedia
Po’owli
Melamprosops phaeosoma

Statws cadwraeth

Mewn perygl difrifol, efallai diflanedig  (IUCN 3.1)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Drepanididae
Genws: Melamprosops[*]
Rhywogaeth: Melamprosops phaeosoma
Enw deuenwol
Melamprosops phaeosoma

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Po’owli (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: po’owliaid) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Melamprosops phaeosoma; yr enw Saesneg arno yw Po’ouli. Mae'n perthyn i deulu'r Mêl-gropwyr Hawaii (Lladin: Drepanididae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn M. phaeosoma, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r po’owli yn perthyn i deulu'r Mêl-gropwyr Hawaii (Lladin: Drepanididae) ac i deulu'r Fringillidae sef 'y Pincod'. Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q777369 Carpodacus waltoni eos
Nico Carduelis carduelis
Serin sitron Carduelis citrinella
Tewbig cynffonddu Eophona migratoria
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Hanes ei ddifodiant

[golygu | golygu cod]

Yn endemig i Hawaii, cafodd y po'owli olaf, fel pob po’owli, yng nghoedwig law Maui’s Hana, ar lethrau Mynydd Haleakalā – “tŷ’r haul” – lle mae’n bwrw glaw drwy’r amser. Fe'i gelwir hefyd yn 'mêl ddringwr wynebddu', ac fe'i darganfuwyd gyntaf mor ddieweddar a 1973. Yna, amcangyfrifodd ymchwilwyr gyfanswm y boblogaeth yn 200 o adar.

Rhoddodd yr ysgolhaig Mary Kawena Pukui ei henw i’r aderyn, sy’n golygu “pen du”. Mae ei llyfr o ddiarhebion Hawäi yn cynnwys yr un hwn: Hāhai nō ka ua i ka ululāʻau, “mae'r glaw yn dilyn y goedwig”. Mae ystyr dwbl i'r ymadrodd: awgrym a rhybudd ydyw. I ddod o hyd i ddŵr, edrychwch am goedwigoedd. Ond hefyd: pe bai un elfen o ecosystem yn cael ei dinistrio, bydd eraill yn sicr o ddilyn.

Erbyn 1997, dim ond pum po’owli oedd ar ôl. Y flwyddyn honno, ar ddiwrnod anarferol o ddisglair, daliodd ymchwilwyr un am y tro cyntaf. Erbyn y mileniwm newydd, dim ond tri po’ouli oedd ar ôl. Er eu bod yn byw ychydig gilometrau oddi wrth ei gilydd, maent yn annhebygol o fod wedi cyfarfod erioed. Yn lle hynny - efallai allan o unigrwydd, efallai allan o ddryswch - roedd pob un yn treulio amser gyda adar pigbraff Maui [2], a oedd â galwad debyg.

Yn 2004, cafodd y po'ouli un cyfle olaf. Cymerodd chwe pherson 18 mis a $300,000 i ddal aderyn. Yn rhyfeddol, dyma’r un unigolyn ag yr oedd Baker wedi ei faglu saith mlynedd ynghynt, pan ddaeth y person cyntaf i ddal po’owli byw. Yn yr amser hwnnw, roedd yr aderyn wedi colli llygad. Roedd yn hen – o leiaf naw – ac roedd caethiwed yn straen. Bu farw ym Maui 11 wythnos yn ddiweddarach, rhwng 10pm a 11.30pm, ar 26 Tachwedd, o fethiannau ar ei organau.

Efe oedd y po'owli diwethaf a welwyd erioed. Ni allai ymchwilwyr oedd yn gobeithio dal benyw ddod o hyd i'r naill na'r llall o'r adar oedd ar ôl. Yn 2019, datganodd yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur fod y rhywogaeth wedi darfod.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Po’owli gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.