Perseus (cytser)
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
Rhan o | hemisffer wybrennol y gogledd ![]() |
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Perseus. Fe'i enwir ar ôl Perseus, cymeriad chwedlonol ym mytholeg Roeg a oedd yn fab i Zeus a Danae.[1][2] Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest. Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Mae'n ymhell i'r gogledd yn yr awyr yn y Llwybr Llaethog rhwng Cassiopeia a'r Pleiades. Ei sêr disgleiriaf yw Mirfak ac Algol.
Mae Algol, neu Beta Persei, yn seren newidiol enwog. Mae'r seren yn disgleirio gyda maintioli gwelady o 2.3, ond yn edwino bob 2.867 diwrnod i faintioli 3.5. Achosir hyn gan seren llai disglair symud rhwng y seren ddisgleiriaf a'r Cysawd yr Haul oherwydd bod y ddwy seren yn cylchroi o'i amgylch.[3]
O ganlyniad i'w lleoliad yn y Llwybr Llaethog, mae nifer o glystyrau sêr yn Perseus. Mae'r seren Mirfak, neu Alffa Persei, a nifer o sêr llai disglair cyfagos yn ffurfio Clwstwr Alffa Persei, clwstwr agored sydd un o'r clystyrau sêr agosaf i'r Cysawd yr Haul.[4]

Mae dau glwstwr sêr, NGC 869 a NGC 884, cyfagos i'w gilydd, yn hawdd i'w weld trwy binocular. Adnabyddir fel y Clwstwr Dwbl. Adnabyddir hefyd fel h a χ Persei ar ôl eu enwau mewn hen gatalogau sêr.[4]
Lleolir y clwstwr sêr Messier 34 yn Perseus, sydd hefyd yn hawdd i'w weld trwy binocular.[4]
Lleolir Clwstwr Perseus neu Abell 426, sydd yn glwstwr galaethau tua 75 milliwn parsec (240 milliwn blwyddyn golau) o'r Cysawd yr Haul, yn y cytser.[5] Yr alaeth ddisgleiriaf yn y clwstwr yw NGC 1275, ffynhonnell radio a phelydr X pwerus a adnabyddir hefyd fel Perseus A.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Allen, Richard Hinckley (1899). Star-Names and Their Meanings. Efrog Newydd: G. E. Stechert. Tud. 329–355. (Yn Saesneg.)
- ↑ "Perseus", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 9 Ebrill 2025
- ↑ "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017. Ymchwiliad am Algol yn adnodd Simbad.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Burnham, Robert (1978). Burnham's Celestial Handbook. 3. Efrog Newydd: Dover Publications, Inc. ISBN 0-486-23673-0. Tudalennau 1394–1452. (Yn Saesneg.)
- ↑ "Cronfa Ddata SIMBAD". Centre de Données Astronomiques de Strasbourg. Cyrchwyd 24 Mawrth 2017. Ymchwiliad am Abell 426 yn adnodd Simbad.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Perseus", Awyr Dywyll Cymru