Neidio i'r cynnwys

Columba (cytser)

Oddi ar Wicipedia
Columba
Enghraifft o:cytser Edit this on Wikidata
Rhan ohemisffer wybrennol y de Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytser pŵl a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Columba. "Columba" yw'r gair Lladin am "golomen". Fe'i darluniwyd gyntaf yn 1592 ar fap gan Petrus Plancius o dan yr enw Columba Nohae (sef "colomen Noa"). Byddai’n ymddangos eto’n fwy amlwg ar ei glôb wybrennol o 1598.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Map yn dangos maint y sêr yn Columba

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Columba", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 2 Ebrill 2025