Neidio i'r cynnwys

Oblast Kursk

Oddi ar Wicipedia
Oblast Kursk
Mathoblast Edit this on Wikidata
PrifddinasKursk Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,060,892 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 Mehefin 1934 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlexey Smirnov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Canol Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd29,800 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Bryansk, Oblast Oryol, Oblast Lipetsk, Oblast Voronezh, Oblast Belgorod, Sumy Oblast Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.75°N 36.02°E Edit this on Wikidata
RU-KRS Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholKursk Oblast Duma Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Kursk Oblast Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlexey Smirnov Edit this on Wikidata
Map

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kursk (Rwseg: Ку́рская о́бласть, Kurskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kursk. Poblogaeth: 1,060,892 (2024).

Baner Oblast Kursk.

Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd yn 1934 yn yr Undeb Sofietaidd.

Mae Oblast Kursk yn rhannu ffin ag Oblast Bryansk i'r gogledd-orllewin, Oblast Oryol i'r gogledd, Oblast Lipetsk i'r gogledd-ddwyrain, Oblast Voronezh i'r dwyrain, ac Oblast Belgorod i'r de a'r ffin rhwng Rwsia a'r Wcrain. Llifa Afon Dnieper ac Afon Don drwy'r oblast.

Ar 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl.

Mae tiriogaeth Oblast Kursk wedi'i phoblogi ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Roedd llwythau Slafaidd o'r Severiaid yn byw yn yr ardal. O 830 ymlaen roedd yr ardal bresennol yn rhan o daleithiau Rus' Khaganate a Kievan Rus. Y trefi hynaf yn y rhanbarth yw Kursk a Rylsk, a grybwyllwyd gyntaf yn 1032 a 1152, yn y drefn honno: dwy brifddinas dugiaethau canoloesol bychan.[1][2] respectively, both capitals of small medieval eponymous duchies.[1] Yn y 13g, gorchfygwyd y rhanbarth gan Ymerodraeth y Mongol.

Yn niriogaeth Kursk Oblast y ganwyd 4ydd arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Khrushchev.

O 2024 ymlaen, piblinell Urengoy-Pomary-Uzhhorod yn Sudzha oedd y lle olaf i nwy naturiol lifo trwyddo o Rwsia i Ewrop trwy'r Wcráin.[3]

Ym 1918, roedd dinasoedd Rylsk a Sudzha yn rhan orllewinol yr Oblast Kursk bresennol yn rhan o dalaith Wcrain.[1] Llofnodwyd cadoediad rhwng Gwladwriaeth Wcrain, yr Almaen a Rwsia Sofietaidd yn Korenevo ym Mai 1918. Kursk oedd man sefydlu Llywodraeth Dros Dro'r Gweithwyr a Gwerinwyr Wcráin, a Sudzha oedd ei sedd gyntaf yn Nhachwedd-Rhagfyr 1918.[4] Arhosodd Sudzha yn rhan o'r Wcráin Sofietaidd (Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin) tan 1922.[5]

Yr Ail Ryfel Byd

[golygu | golygu cod]

Ymladdwyd un o frwydrau mawr yr Ail Ryfel Byd ar dir yr oblast, sef Brwydr Kursk (5 Gorffennaf i 23 Awst, 1943). Dyma safle bwrydrau Wcrain a'r Almaen yn erbyn Rwsia.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943.

Rhyfel Rwsia ac Wcráin

[golygu | golygu cod]

Ar 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Сім цікавих фактів про Курськ і Курщину" (yn Wcreineg). Cyrchwyd 19 Awst 2024.
  2. Słownik geograficzny Królestwa Polskiego i innych krajów słowiańskich, Tom X (yn Pwyleg). Warszawa. 1889. t. 94.
  3. "Is it the end for Russian gas supplies to Europe via Ukraine?". Reuters. 12 Awst 2024.
  4. "Міфи та факти про «першу столицю України»" (yn Wcreineg). 28 March 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-11. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
  5. "Який вигляд зараз має місто Суджа, яке контролюють українські військові? Ексклюзив hromadske" (yn Wcreineg). Cyrchwyd 14 Awst 2024.