Neidio i'r cynnwys

Morfarch

Oddi ar Wicipedia
Morfarch
Hippocampus hippocampus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Syngnathiformes
Teulu: Syngnathidae
Is-deulu: Hippocampinae
Genws: Hippocampus
Am y creadur mytholegol o'r un enw, gweler Morfarch (mytholeg). Mae "morfarch" hefyd yn enw amgen ar y walrws.

Unrhyw un o 46 rhywogaeth o bysgod esgyrnog morol bach yn y genws Hippocampus yw morfarch. Mae gan forfarch ben a gwddf yn debyg i ben ceffyl. Mae morfeirch wedi'u gorchuddio ag arfwisg esgyrnog segmentiedig. Mae ganddyn nhw gynffonnau cyrliog y maen nhw'n aml yn eu defnyddio i lynu wrth lystyfiant fel morwellt. Maen nhw'n nofio mewn osgo unionsyth gan ddefnyddio asgell y cefn i'w gwthio eu hunain.

Mae morfeirch i'w cael ledled y byd mewn dŵr halen bas mewn ardaloedd trofannol a thymherus.

Mae gan y morfarch gwryw god ar flaen ei gynffon. Wrth baru, mae'r morfarch benyw yn dodi hyd at 1,500 o wyau yng nghod y gwryw. Mae'r gwryw yn cario'r wyau am 9 i 45 diwrnod nes bod yr epil bach ddod i'r amlwg - yn fach ond wedi'i ffurfio'n llwyr.