Mons veneris
Mewn anatomeg ddynol y cnwc Gwener neu'r chwydd Fenws (yn iaith y feddygaeth mons veneris, ymadrodd Lladin sy'n golygu ‘mynydd Gwener’) ydy'r chwydd llyfndew o feinwe frasterog yn y werddyr (hefyd cedorlle) lle gorwedd y gedor a'r symffysis piwbig. Mae'n fwy amlwg mewn benywod nag ydyw mewn dynion a dydy'r term ‘cnwc Gwener’ ddim yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhan yma o gorff dynion fel rheol, ond mons pubis (Cymreigiad: mons pwbis ‘mynydd y pwbis’). Ar ôl glasoed, pan fo llif yr estrogen yn gryf, caiff ei orchuddio â blewiach mân a elwir yn gedor.
Mewn benywod, mae'r cnwc Gwener yn ymrannu'n y gweflau mwyaf ar boptu'r hollt hwnnw a elwir hollt Gwener sy'n amgylchynnu'r clitoris, agoriad y wain a strwythurau eraill o fewn y fylfa. Mae'r cnwc Gwener felly'n gwthio'r fylfa allan oddi wrth y corff pan fo'r ferch yn sefyll.
Nid yw ei bwrpas yn wybodus i'r anatomydd, ond un posibilrwydd yw ei fod yn amlygu'r organau cenhedlu, fel modd o geisio denu cymar.