Neidio i'r cynnwys

Moa

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd: Moa (gwahaniaethu)
Moa
Dinornis maximus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Struthioniformes
Teulu: Dinornithidae
Genera

Anomalopteryx
Euryapteryx
Megalapteryx
Dinornis
Emeus
Pachyornis

Roedd y moa yn aderyn cawraidd nad oedd yn gallu hedfan, sy'n un o 25 rhywogaeth marw sy'n perthyn i deulu'r Dinornithidae, a oedd i'w gael yn y gorffennol yn Seland Newydd.

Roedd gan y moa daldra o hyd at 3m (tua 9 troedfedd), gyda phen bychan, gwddw hir a choesau hirion cryf iawn. Roedd y moaid yn medru rhedeg yn gyflym ond cawsant eu hela'n ddidrugaredd am eu cig gan y Maori ac ymsefydlwyr eraill ar Seland Newydd o ynysoedd Polynesia.

Mae'n bosibl fod rhai o'r moaid llai wedi llwyddo i oroesi yn y fforestydd hyd at y 19g.

Eryr Haast cawraidd yn ymosod ar ddau Foa