Meráng
Gwedd
Math | melysion, cynhwysyn bwyd |
---|---|
Deunydd | gwynnwy wedi'i guro, siwgr |
Yn cynnwys | gwynnwy wedi'i guro, siwgr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Melysfwyd a wneir drwy gymysgu gwynnwy wedi'i guro â siwgr a'i grasu'n grimp yw meráng.[1] Câi'r cymysgedd ei beipio ar astell bobi drwy fag crwst a'i sychu mewn ffwrn ar wres isel. Gan amlaf maent yn cadw lliw gwyn fel ifori, ac nid yn cael eu brownio.[2]
Bwyteir merángs gyda ffrwythau, hufen iâ, pwdinau ac ati. Gellir hefyd bwyta merángs bychain yn debyg i felysion fel cisys. Dywed i deisennwr o'r Swistir o'r enw Gasparini ddyfeisio'r meráng ym 1720.[2]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ meráng. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) meringue. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.