Neidio i'r cynnwys

Masnachu pobl

Oddi ar Wicipedia

Ffurf ar gaethwasiaeth yw masnachu pobl sy'n ymwneud â chludo pobl yn anghyfreithlon drwy drais neu dwyll er pwrpas llafur, puteindra neu drais rhywiol, neu weithgareddau eraill sy'n ennill arian i'r masnachwyr.

Nifer o gamau sydd i'r broses fasnachu: recriwtio'r dioddefwyr, eu cludo ar draws ffiniau, eu trosglwyddo i'r masnachwyr ar ben y daith, eu llochesu, a'u derbyn gan eu meistri neu berchnogion newydd. Yn gyffredinol, gwledydd datblygol yw ffynonellau'r fasnach bobl ac mae sefyllfaoedd economaidd a chymdeithasol yn ymddwyn fel ffactorau gwthio. Ar hyd rai llwybrau, câi'r dioddefwyr eu cludo drwy nifer o wledydd ar hyd rhwydwaith o dai diogel mewn gwledydd tramwy. Y byd datblygedig yw pen y daith gan amlaf, sy'n denu'r rhai a gaiff eu twyllo gan addewid cyfoeth. Ffactor sy'n tynnu'r fasnach bobl i'r gwledydd hyn yw'r galw am lafurwyr rhad.

Problem drawswladol yw masnachu pobl sy'n effeithio ar bob haen o gymdeithas, oedran, hil, a rhyw. Amcangyfrifir i 1,000,000 o bobl gael eu masnachu pob blwyddyn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) human trafficking. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Ebrill 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.