Madfall y tywod
Gwedd
Madfall y tywod | |
---|---|
Gwryw | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Squamata |
Teulu: | Lacertidae |
Genws: | Lacerta |
Rhywogaeth: | L. agilis |
Enw deuenwol | |
Lacerta agilis Linnaeus, 1758 |
Madfall fach a geir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop a Chanolbarth Asia yw madfall y tywod (Lacerta agilis). Mae ganddi hyd o tua 15–19 cm.[1] Mae'r cefn yn frown neu lwyd gyda smotiau du a gwyn. Mae'r bol yn wyn, melyn neu wyrdd. Mae gan y gwryw ystlysau gwyrdd llachar yn ystod y tymor bridio.[2]
Mae'n byw mewn rhostir, glaswelltir, a thwyni.[2] yng ngwledydd gwledydd Prydain, fe'i ceir yn Ne a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi cael ei hailgyflwyno i Ogledd Cymru ac ynys Coll yn yr Alban.[1] Mae'n bwydo ar bryfed a phryfed cop yn bennaf.[1] Mae'n dodwy 4–14 ŵy sy'n cael eu claddu mewn tir tywodlyd.[2]